Atyniadau
Arete Outdoor Centre
Darparwr Gweithgareddau
Darparwyr addysg awyr agored a chyrsiau gweithgaredd antur gan gynnwys dringo creigiau, canŵio, arfordiro a cherdded ceunant. Llety grŵp 3 seren ar gael ar gyfer 100.
Bach Ventures
Darparwr Gweithgareddau
Ydych chi’n chwilio am sialens newydd? Os felly, ymunwch â ni am antur. Cewch ddewis o Sgramblo Ceunentydd, Arforgampau, Caiacio a Chaiacio Môr, Dringo, Canwio neu ddiwrnod o Fynydda.
Glasfryn Parc
Gweithgaredd, Atyniadau
Ble wnawn ni ddechrau? Meddyliwch am weithgaredd ac mae’n debygol iawn y bydd cyfle i chi ei wneud yma. Ymysg y gweithgareddau sydd ar gael mae go karts, beiciau cwad, saethyddiaeth, pysgota a bowlio deg.
Gwaith Llechi Inigo Jones
Atyniadau
Sefydlwyd Gweithdy Llechi Inigo Jones yn 1861 yn bennaf i greu llechi ysgrifennu ar gyfer ysgolion.
Gypsy Wood Park
Atyniadau
Mae Gypsy Wood Park yn atyniad unigryw yng Ngogledd Cymru y bydd y teulu cyfan wrth eu boddau efo fo.
Yr Hwylfan
Atyniadau
Mae’r enw yn dweud y cyfan – wel bron iawn.