Llefydd i fwyta
Antur Stiniog - Y Siop
Canolfan newydd Antur 'Stiniog yng nghanol Bro Ffestiniog. Dyma fenter masnachol efo calon cymdeithasol. Mae’r Siop yn fan gwybodaeth ar gyfer rhyfeddodau ardal unigryw Bro Ffestiniog.
Banc Porthmadog
Mae bwyty Banc yng nghanol Porthmadog, yn gweini bwyd blasus Môr y Canoldir, cinio Sul a tapas.
Cadwaladers Porthmadog
Mae hufen iâ Cadwaladers wedi dod yn rhan fawr o'r diwylliant yn lleol ac mae eu henw da wedi lledaenu ymhell ac agos. Mae hufen iâ fanila enwog Cadwaladers ar gael bob amser yn ogystal â dewis eang o flasau hufen iâ eraill.
Caffi Lakeside
Yn swatio rhwng llyn a rhaeadr wrth droed mynyddoedd y Moelwyn, yng nghanol Eryri, mae Caffi Lakeside yn ganolbwynt (ac mewn tywydd gwael, lloches) i gerddwyr, dringwyr, ogofawyr a beicwyr.
Ffestiniog Power Station, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3TP