Atyniadau
Caerau Gardens
Atyniadau
Wedi ei leoli dros 1000 troedfedd, mae gan Caerau Gardens y gerddi uchaf, sy'n agored i'r cyhoedd, yng Ngogledd Cymru. Sefydlwyd y gerddi yn 1994, ac mae yna ychwanegiadau yn cael eu gwneud trwy'r adeg.
Gerddi Plas Brondanw
Atyniadau
Rhoddwyd Plas Brondanw i Syr Clough Williams-Ellis gan ei dad ym 1902. Y gerddi ym Mhlas Brondanw yw’r enghraifft orau o ddawn Syr Clough i dirlunio’n greadigol.
Portmeirion
Atyniadau
Creadigaeth y pensaer Clough Williams-Ellis yw Portmeirion. Yn ogystal a'i bensaerniaeth eiconig, amgylcheddau golygfaol a geddi gwyllt eang, mae'r pentref yn gartref i ddau westy hip, clwster o fythynnod hanesol, sba a bwytai arobryn.
RSPB Conwy
Atyniadau
Mae gwarchodfa natur RSPB Conwy yn gorstir ar lan ddwyreiniol aber Conwy, a grëwyd o ddeunydd a gloddwyd wrth adeiladu twnnel ffordd yr A55. Mae bellach yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt, ac yn lle gwych i gyflwyno teuluoedd i natur.