Atyniadau
Abaty Cymer
Atyniadau
Olion sylweddol eglwys abaty Sistersaidd syml a sefydlwyd ym 1198 gan Maredudd ap Cynan.
Amgueddfa Syr Henry Jones
Atyniadau
Mae’r amgueddfa ddeniadol hon ar fywyd gwledig Cymru yn dathlu bywyd rhyfeddol Henry Jones, a anwyd yn Llangernyw yn 1852.
Eisteddfa Fishery
Gweithgaredd, Atyniadau
P'un ai ydych chi'n mwynhau pysgota bras neu helwriaeth, neu ddiwrnod teuluol hwyliog, byddwch chi'n mwynhau'r awyrgylch cyfeillgar a golygfeydd ysblennydd yma yn Eisteddfa Fishery.
RSPB Conwy
Atyniadau
Mae gwarchodfa natur RSPB Conwy yn gorstir ar lan ddwyreiniol aber Conwy, a grëwyd o ddeunydd a gloddwyd wrth adeiladu twnnel ffordd yr A55. Mae bellach yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt, ac yn lle gwych i gyflwyno teuluoedd i natur.
Saethu Coed Airsoft
Atyniadau
Mae Saethu Coed Airsoft wedi ei leoli mewn coedwig yn Rhoshirwaun ger Aberdaron. Gêm wych ar gyfer criw o ffrindiau, teuluoedd, partion penblwydd a bondio tîm criw gwaith.