Atyniadau
Amgueddfa Awyrennol Caernarfon Airworld
Atyniadau
Wedi ei leoli ar gyn faes awyr yr RAF Llandwrog, mae gan yr amgueddfa gasgliad trawiadol o awyrennau a phethau cofiadwy awyrennu, gan gynnwys D.H. Vampire, Hawker Hunter F1, Hawker Sea Hawk, Westland Whirlwind a BAe Harrier.
Dinas Dinlle
Atyniadau
Traeth poblogaidd iawn a hawdd cyrraedd ato yw Dinas Dinlle. Mae’r glan uchaf wedi ei orchuddio gan gerrig man, ond yna ceir ehangder mawr o dywod, euraidd, cadarn.
Dinas Dinlle, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5TW
Oriel Plas Glyn-y-Weddw
Atyniadau
Mae'r oriel gelf unigryw yma wedi ei lleoli yn Llanbedrog ym Mhen Llŷn darluniadwy. Mae'r Plasty Fictorianaidd Gothig wedi ei restru'n radd II yma yn lle perffaith i weld peth o gelf cyfoes gorau Cymru.
Sygun Copper Mine
Atyniadau
Dyma brofiad tanddaearol trawiadol. Cafodd y gwaith ei adael yn segur ym 1903 ond bellach mae ar agor i ymwelwyr. Mae Sygun yn adrodd hanes chwarelwyr o Oes Fictoria.
Traeth Llanbedrog
Atyniadau
Cytiau traeth Llanbedrog, sydd yn tebygu i bentref teganau, yw’r nodwedd gyntaf a wnaiff taro eich llygaid (mae modd eu llogi am ddiwrnod neu am wythnos).
Llanbedrog, Gwynedd, LL53 7TR