Atyniadau
Amgueddfa'r Môr Porthmadog
Atyniadau
Roedd harbwr prysur Porthmadog hyd yn oed yn fwy o dan ei sang 150 mlynedd yn ôl. Dewch i ddarganfod pam yn yr amgueddfa hon, sy’n adrodd stori’r gwaith adeiladu llongau yn y porthladd a’r cyfnod pan oedd y gwaith o allforio llechi yn ei anterth.
Clwb Golff Porthmadog
Gweithgaredd
Mae gan Glwb Golff Porthmadog bopeth sydd ei angen ar gyfer diwrnod allan gwych gyda theulu a ffrindiau.
Clwb Golff Pwllheli
Gweithgaredd
Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yn un o gyrsiau golff gorau Gogledd Cymru. Saif Clwb Golff Pwllheli, cwrs unigryw sy’n rhannol lincs a pharcdir, ar arfordir deheuol Bae Ceredigion.
Corris Mine Explorers
Gweithgaredd, Atyniadau
Enillwyr Tystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor 2022 ac wedi cyrraedd rownd derfynol Gweithgaredd y Flwyddyn 2022 Go North Wales. Dilynwch ôl troed cloddwyr llechi Oes Fictoria gydag un o'r tywyswyr arbenigol.
Corris Railway
Atyniadau
Rheilffordd Corris oedd y rheilffordd cul cyntaf yng Nghanolbarth Cymru. Wedi ei adeiladu yn wreiddiol yn 1859 fel ffordd 2'3" ar gyfer tram wedi ei dynnu gan geffyl, cyrhaeddodd trenau stêm yn 1878 a chludwyd teithwyr o 1883 hyd at 1930.