Atyniadau
Llwybrau Defaid Eryri
Gweithgaredd, Atyniadau
Dewch am dro bach hamddenol o amgylch ein fferm deuluol ym Mharc Cenedlaethol Eryri wrth dywys un o’n defaid Zwartbles prydferth a chyfeillgar gyda chi.
Plas yn Rhiw
Atyniadau
Dyma blasty bach a pherffaith Tuduraidd/Sioraidd sy’n dyddio o’r 17eg Ganrif a sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae lleoliad y plasty yn ei hun yn werth ei weld.
Plas Tan y Bwlch
Atyniadau
Mae yna derasau ffurfiol, gardd ddŵr a phwll yn rhannau uchaf y gerddi yma. Hefyd ceir yma lawntiau ar lechwedd, llwyni addurnol a choed conwydd, rhai ohonynt wedi'u plannu yn ôl yn Oes Fictoria.
Porth Neigwl
Atyniadau
Daw’r enw dramatig Saesneg ar yr ardal hon oherwydd ei siâp hanner cylch, sydd yn tebygu i geg llydan agored. Daw ei dimensiwn uffernol oddi wth nodweddion gorllewinol, ffyrnig, sydd yn cynnig ychydig iawn o gysgod i forwyr.
Llanengan, Gwynedd, LL53 7LG
Yr Ysgwrn
Atyniadau
Nid oes rhyfedd mai milwr anfodlon oedd Hedd Wyn wrth i chi sefyll ar aelwyd Yr Ysgwrn ar ddyddiau hir o haf. Ei gartref oedd ei fwyniant, ei gynefin oedd ei nefoedd, a'i bensil oedd ei unig arf.