Atyniadau
Amgueddfa Lechi Cymru
Atyniadau
Lleolir Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai Fictoraidd hen chwarel Dinorwig, yng nghysgod Mynydd Elidir. Yma, gallwch deithio nôl i weld gorffennol diwydiant a ffordd o fyw sydd bellach yn rhan annatod o hunaniaeth Cymru.
Boulder Adventures
Darparwr Gweithgareddau
Mae Boulder Adventures, Llanberis yn cynnig gweithgareddau awyr agored a llety yn Eryri, Gogledd Cymru.
Clwb Golff Fairbourne
Gweithgaredd
Mae'r cwrs golff 1000 llath par 3 yma yn un gwych ar gyfer dechreuwyr, ac ar agor i'r cyhoedd. Gellir llogi clybiau a pheli. Ar ôl cwblhau eich rownd, ymlaciwch ac edmygwch cadwyn mynyddoedd Cader Idris a'r bryniau uwchben Abermaw.
Clwb Golff Penmaenmawr
Gweithgaredd
Mae Cwrs Golff Penmaenmawr wedi'i sefydlu ar gyfer golffwyr ar bob lefel, o chwaraewyr handicap isel, chwaraewyr handicap canolig a dechreuwyr ac ar ei ddiwrnod gall fod yn faddeugar yn ogystal â darparu her go iawn i bawb.