Atyniadau
Bragdy Cwrw Llŷn
Atyniadau
Mae Cwrw Llŷn yn fragdy annibynnol yn Llŷn. Yn Nefyn mae cwrw go-iawn yn cael ei fragu mewn arddull draddodiadol gan fragdy crefft. Archebwch daith Fragdy Cymraeg, cewch fwynhau:
Glasfryn Parc
Gweithgaredd, Atyniadau
Ble wnawn ni ddechrau? Meddyliwch am weithgaredd ac mae’n debygol iawn y bydd cyfle i chi ei wneud yma. Ymysg y gweithgareddau sydd ar gael mae go karts, beiciau cwad, saethyddiaeth, pysgota a bowlio deg.
Oriel Plas Glyn-y-Weddw
Atyniadau
Mae'r oriel gelf unigryw yma wedi ei lleoli yn Llanbedrog ym Mhen Llŷn darluniadwy. Mae'r Plasty Fictorianaidd Gothig wedi ei restru'n radd II yma yn lle perffaith i weld peth o gelf cyfoes gorau Cymru.
Plas yn Rhiw
Atyniadau
Dyma blasty bach a pherffaith Tuduraidd/Sioraidd sy’n dyddio o’r 17eg Ganrif a sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae lleoliad y plasty yn ei hun yn werth ei weld.
Saethu Coed Airsoft
Atyniadau
Mae Saethu Coed Airsoft wedi ei leoli mewn coedwig yn Rhoshirwaun ger Aberdaron. Gêm wych ar gyfer criw o ffrindiau, teuluoedd, partion penblwydd a bondio tîm criw gwaith.