Atyniadau
Amgueddfa Lechi Cymru
Atyniadau
Lleolir Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai Fictoraidd hen chwarel Dinorwig, yng nghysgod Mynydd Elidir. Yma, gallwch deithio nôl i weld gorffennol diwydiant a ffordd o fyw sydd bellach yn rhan annatod o hunaniaeth Cymru.
Boutique Tours of Snowdonia
Darparwr Gweithgareddau
Gadewch i Boutique Tours of Snowdonia eich helpu i 'Wneud y gorau o'ch ymweliad a darganfod mwy' o Eryri gyda'u teithiau tywys gyrrwr preifat enwog.
Tŷ Mawr Wybrnant
Atyniadau
Y person cyntaf i gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg oedd esgob o gyfnod y Tuduriaid, yr Esgob William Morgan, ac yn ffermdy Tŷ Mawr Wybrnant, ger Penmachno, yn Nyffryn Conwy, gallwch ymweld â safle ei fan geni
Plas yn Rhiw
Atyniadau
Dyma blasty bach a pherffaith Tuduraidd/Sioraidd sy’n dyddio o’r 17eg Ganrif a sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae lleoliad y plasty yn ei hun yn werth ei weld.