Atyniadau
Traeth Fairbourne
Atyniadau
Caiff traeth hardd, euraidd Fairbourne ei gefnu gan fanc serth llawn cerrig man. Maent yn amlinellu darn cul o dir sydd yn ymestyn yr holl ffordd tuag at aber Mawddach, ble ceir golygfeydd ardderchog o’r mynyddoedd, y coedwigoedd a’r môr.
Fairbourne, Gwynedd, LL38 2DZ
Traeth Llanfairfechan
Atyniadau
Tref swynol, Fictoraidd yw Llanfairfechan a leolir mewn lleoliad dramatig - mae ei thraeth hir, eang a thywodlyd yn cael ei chysgodi gan 1,423tf / 434m o fynydd, Mynydd Penmaenmawr.
Promenade, Llanfairfechan, Conwy, LL33 0BY
Traethau Borth-y-Gest
Atyniadau
Lleolir Traethau Borth-y-Gest ym mhentref bychan, prydferth Borth-y-Gest ger Porthmadog. Gallwch gael mynediad i'r traethau o faes parcio'r pentref drwy ddilyn arwyddion Llwybr Arfordir Cymru tua'r gorllewin gan fynd heibio i dai teras.
Borth y Gest, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9TY