Atyniadau
Amgueddfa Lloyd George
Atyniadau
Dysgwch mwy am y gwleidydd cynddeiriog a dadleuol hwn, fu’n arwain Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan gyfrannu at sefydlu’r wladwriaeth les.
Clwb Golff Fairbourne
Gweithgaredd
Mae'r cwrs golff 1000 llath par 3 yma yn un gwych ar gyfer dechreuwyr, ac ar agor i'r cyhoedd. Gellir llogi clybiau a pheli. Ar ôl cwblhau eich rownd, ymlaciwch ac edmygwch cadwyn mynyddoedd Cader Idris a'r bryniau uwchben Abermaw.
Labrinth y Brenin Arthur
Atyniadau
Hwyliwch drwy'r rhaeadr danddaearol i le hudolus llawn dreigiau, cewri a'r Brenin Arthur. Yn nyfnderoedd y Labrinth, trwy geudyllau enfawr a thwneli troellog, darganfyddwch chwedlau Cymreig hynafol wrth gael arweiniad cychwr o’r Oesoedd Tywyll.
Parc Glynllifon
Atyniadau
Dyma berl annisgwyl! Byddwch yn darganfod gerddi hanesyddol helaeth - rhestredig Gradd I - gyda llwybrau cerdded drwy’r coedwigoedd, ffoleddau a cherfluniau.