Atyniadau
Amgueddfa’r Rheilffyrdd Bach Cul
Atyniadau
Darganfyddwch fyd y lein fach, o’r locomotif stêm diwydiannol i swyn rheilffyrdd gwledig Iwerddon. Dysgwch am y Parchedig Awdry a’i straeon rheilffordd i blant.
Amgueddfa Lechi Cymru
Atyniadau
Lleolir Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai Fictoraidd hen chwarel Dinorwig, yng nghysgod Mynydd Elidir. Yma, gallwch deithio nôl i weld gorffennol diwydiant a ffordd o fyw sydd bellach yn rhan annatod o hunaniaeth Cymru.
Amgueddfa'r Môr Porthmadog
Atyniadau
Roedd harbwr prysur Porthmadog hyd yn oed yn fwy o dan ei sang 150 mlynedd yn ôl. Dewch i ddarganfod pam yn yr amgueddfa hon, sy’n adrodd stori’r gwaith adeiladu llongau yn y porthladd a’r cyfnod pan oedd y gwaith o allforio llechi yn ei anterth.
Arthog Outdoor Education Centre
Darparwr Gweithgareddau
Canolfan breswyl sydd wedi ei sefydlu fel un o'r prif ddarparwyr gweithgareddau antur yn y rhan hyfryd yma o Ogledd Cymru.
Go Below Underground Adventures
Gweithgaredd, Atyniadau
Mae Go Below yn fusnes teuluol sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n cynnig anturiaethau tanddaearol go iawn, beth bynnag fo'r tywydd.
Canolfan Genedlaethol Cadw Gwenyn Cymru
Atyniadau
Wedi'i leoli oddi mewn i Ganolfan Bwyd Bodnant, mae'r Ganolfan Genedlaethol Cadw Gwenyn yn un addysgiadol a rhyngweithiol, a gallwch weld y gwenyn yn gweithio, os bydd y tywydd yn caniatau, a hefyd darganfod sut i sicrhau gwell byd i wen