Atyniadau
Clwb Golff Porthmadog
Gweithgaredd
Mae gan Glwb Golff Porthmadog bopeth sydd ei angen ar gyfer diwrnod allan gwych gyda theulu a ffrindiau.
Traeth Y Graig Ddu Morfa Bychan
Atyniadau
Er yr enw, ychydig iawn o ddu a welir yn y traeth hwn! Mae traeth tywodlyd mân y Graig Ddu yn berffaith agored a llydan.
Morfa Bychan, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9YH
Traeth Trefor
Atyniadau
Ceir golygfeydd arbennig o Benrhyn Llŷn oddi wrth y pentref bychan, gwahanol hwn. Datblygodd Trefor diolch i’w chwarel gwenithfaen lleol. Daeth yr harbwr bychan yn fan hynod o brysur wrth allforio gwenithfaen ar hyd ac ar draws Ewrop.
Trefor, Gwynedd, LL54 5LB
Tyddyn Mawr
Gweithgaredd
Ceir golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri, Ynys Môn a Phen Llŷn o'r cwrs parcdir 9 twll tonnog hwn. Mae hefyd yn cynnwys llyn sydd yn herio'r chwaraewyr gorau! Mae croeso i grwpiau mawr, boed hynny ar gyfer partïon swyddfa neu godwyr arian!