Atyniadau
Castell Dolwyddelan
Atyniadau
Caer ysblennydd o'r 13eg ganrif, a adeiladwyd gan Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd, a llywodraethwr y rhan fwyaf o Gymru, mae Castell Dolwyddelan yn sefyll ar fryncyn creigiog yn nyffryn darluniadol Lledr rhwng Betws-y-Coed a Blaenau Ffestiniog.
Ffynnon Gybi
Atyniadau
Safle hardd hen ‘ffynnon sanctaidd’ i Sant Cybi o’r chweched ganrif. Mae dwy siambr ffynnon o garreg a bwthyn wedi goroesi.
Glasfryn Parc
Gweithgaredd, Atyniadau
Ble wnawn ni ddechrau? Meddyliwch am weithgaredd ac mae’n debygol iawn y bydd cyfle i chi ei wneud yma. Ymysg y gweithgareddau sydd ar gael mae go karts, beiciau cwad, saethyddiaeth, pysgota a bowlio deg.
Piggery Pottery
Atyniadau
Nid ar gyfer plant yn unig mae paentio potiau! Dros y 40+ o flynyddoedd ers rhedeg stiwdio 'paentiwch o eich hun', maent yn parhau i weld pobl o bob oed yn synnu ac wrth eu boddau gyda'r llawennydd y mae'n rhoi iddyn nhw.