Atyniadau
Amgueddfa'r Môr Porthmadog
Atyniadau
Roedd harbwr prysur Porthmadog hyd yn oed yn fwy o dan ei sang 150 mlynedd yn ôl. Dewch i ddarganfod pam yn yr amgueddfa hon, sy’n adrodd stori’r gwaith adeiladu llongau yn y porthladd a’r cyfnod pan oedd y gwaith o allforio llechi yn ei anterth.
Neuadd Dwyfor - Canolfan Gelfyddydol a Sinema
Atyniadau
Mae’r adeilad Fictorianaidd hwn, a adeiladwyd yn 1902 bellach yn ganolfan gelfyddydol fywiog a chyfoes ac yn gartref i lyfrgell Pwllheli.
Rheilffordd Ucheldir Cymru
Atyniadau
Mae taith fer ar hyd rheilffordd lein gul o Borthmadog yn mynd â chi i Ganolfan Treftadaeth a Siediau Injan, sy’n llawn arddangosfeydd ar dreftadaeth ddiwydiannol a rheilffyrdd gogledd-orllewin Cymru.
Traeth Y Graig Ddu Morfa Bychan
Atyniadau
Er yr enw, ychydig iawn o ddu a welir yn y traeth hwn! Mae traeth tywodlyd mân y Graig Ddu yn berffaith agored a llydan.
Morfa Bychan, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9YH
Traeth Pwllheli
Atyniadau
Ceir dau draeth ym Mhwllheli, traeth Glan y Don a’r traeth deheuol. Mae traeth Glan y Don, sydd yn wynebu’r de, yn un o’r cyfrinachau gorau’r Llŷn Peninsula, a chaiff ei ddarganfod wrth gefn gweithdai'r marina.
Pwllheli, Gwynedd, LL53 5YT