Atyniadau
Muriau Tref Conwy
Atyniadau
Dros 3/4m (1.2km) o furiau tref, un o’r setiau mwyaf cyflawn yn Ewrop gydag un ar hugain o dyrau a thri phorth, sy'n amgau'r rhan fwyaf o'r dref. Safle Treftadaeth y Byd.
NAVSAR Marine
Darparwr Gweithgareddau
Mae NAVSAR Marine yn cynnig ystod o gyrsiau hyfforddi RYA ar gyfer trin a llywio cychod yn ddiogel, a gallant ddarparu hyfforddiant cychod pŵer, jetski, cwch eich hun a gwasanaethau morol eraill.
North Wales Rock Climbing
Darparwr Gweithgareddau
Mae North Wales Rock Climbing yn cynnig amryw o weithgareddau mynydda gan gynnwys dringo tywys, sgramblo a cherdded, i sgiliau mordwyo a rheolaeth mynydd.
Oriel Plas Glyn-y-Weddw
Atyniadau
Mae'r oriel gelf unigryw yma wedi ei lleoli yn Llanbedrog ym Mhen Llŷn darluniadwy. Mae'r Plasty Fictorianaidd Gothig wedi ei restru'n radd II yma yn lle perffaith i weld peth o gelf cyfoes gorau Cymru.
Parc Glynllifon
Atyniadau
Dyma berl annisgwyl! Byddwch yn darganfod gerddi hanesyddol helaeth - rhestredig Gradd I - gyda llwybrau cerdded drwy’r coedwigoedd, ffoleddau a cherfluniau.
Plas yn Rhiw
Atyniadau
Dyma blasty bach a pherffaith Tuduraidd/Sioraidd sy’n dyddio o’r 17eg Ganrif a sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae lleoliad y plasty yn ei hun yn werth ei weld.