Atyniadau
Beacon Climbing Centre
Gweithgaredd, Atyniadau
Beth bynnag fo'r tywydd, dewch i ddringo! Mae Canolfan Dringo Beacon yn lleoliad cyffrous ym mhob tywydd, gyda gweithgareddau hwyliog yn addas i'r teulu cyfan.
Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai
Darparwr Gweithgareddau
Wedi'i osod mewn saith erw o dir, sy'n edrych dros Ynys Môn, mae Plas Menai ar agor drwy'r flwyddyn ac mae'n gyrchfan perffaith i unrhyw un sy'n chwilio am chwaraeon dŵr rhagorol ac antur awyr agored.
Clwb Golff Fairbourne
Gweithgaredd
Mae'r cwrs golff 1000 llath par 3 yma yn un gwych ar gyfer dechreuwyr, ac ar agor i'r cyhoedd. Gellir llogi clybiau a pheli. Ar ôl cwblhau eich rownd, ymlaciwch ac edmygwch cadwyn mynyddoedd Cader Idris a'r bryniau uwchben Abermaw.
Y Ganolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol
Gweithgaredd, Atyniadau
Mae’r Ganolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol yn gartref i rafftio dŵr gwyn a chaiacio yn y DU. Mae’r ganolfan wedi ei lleoli ar yr Afon Tryweryn; afon fynydd Cymreig go iawn yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.