Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Yng nglyn â Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Ein gweledigaeth
yw Gogledd Cymru gyda chyfoeth o fywyd gwyllt a fwynheir gan bawb. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn un o blith 47 o Ymddiriedolaethau Natur ledled y DG ac yn un o blith 6 Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru. Rydym yn elusen gofrestredig, sy'n dibynnu ar roddion ac ar gefnogaeth ein haelodau. Gyda'ch cymorth chi, rydym yn credu y gallwn wneud llawer i warchod y bywyd gwyllt sydd ar ôl ac i wella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt Gogledd Cymru.
Amcanion Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru • Gwarchod bywyd gwyllt Gogledd Cymru ar gyfer y dyfodol.
• Cynyddu'r ddealltwriaeth o fywyd gwyllt Gogledd Cymru a'i amgylchedd naturiol.
• Defnyddio'r wybodaeth hon wrth warchod bywyd gwyllt yn ymarferol yn ein gwarchodfeydd natur ac mewn mannau eraill ledled Gogledd Cymru.
• Sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn cael cyfle i fwynhau bywyd gwyllt Gogledd Cymru.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn:
• Buddsoddi yn y dyfodol drwy helpu pobl o bob oed i werthfawrogi a deall bywyd gwyllt yn well
• Prynu a rheoli gwarchodfeydd natur
• Ymgymryd â phrosiectau sydd o fudd i fywyd gwyllt mewn trefi ac yng nghefn gwlad
• Herio datblygiadau sy'n bygwth cynefinoedd bywyd gwyllt
• Gweithio gyda'r cyhoedd, cymunedau, perchnogion tir, cynghorau lleol ac eraill i warchod bywyd gwyllt ar gyfer y dyfodol.
Gwarchod natur ar gyfer y dyfodol
Mae'r gwarchodfeydd yn gartref i amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau, ac maent yn amrywio o ran maint o sawl hectar i lai nag un, ac o ran statws o Warchodfa Natur Genedlaethol i ardaloedd bychain iawn sy'n gartref efallai i ddim ond un rhywogaeth o ddiddordeb. .
Traeth Lafan
(ymestyn 9.5km o Fangor i Lanfairfechan)
Amrediad o gynefinoedd blaendraeth, mwd a thywod rhynglanw, dros 2,500 hectar o'r traeth ar lanw isel. Sawl dynodiad fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Gwarchod Arbennig, ac Ardal Cadwraeth Arbennig. Cynefin pwysig i wyachod mawr copog, piod môr, hwyaid brongoch a hwyaid llygad aur.
Rhwng misoedd Medi a Mawrth, bydd y Glas y Dorlan llachar yn olygfa gyfarwydd o amgylch y lagŵn, yn chwilio am ysglyfaeth. Yn cadw cwmni iddo bydd y Gorhwyaden, y Chwiwell a’r Pibydd Coeswerdd.
Tra’n cerdded ar hyd y llwybrau, cadwch lygad am y Caldrist Llydanddail, tegeirian prin iawn yn lleol, a Rhedyn Tafod yr Hydd a’r Marchredyn Gwryw, sy’n tyfu mewn mannau cysgodol. Ar ganghennau’r coed, mae’r Siff-Saff a Thelor yr Helyg ymhlith rhai o adar mudol y gwanwyn sydd i’w clywed yn glir. Ceir gwahanol fathau o ffwng lliwgar yma hefyd, gyda Chwpan bychan Robin Goch yn gyffredin yn ystod y gaeaf.
Coed Crafnant
3 milltir i'r dwyrain o Lanbedr, ar hyd lôn trac hyd at Cwm Bychan (Llanbedr, LL45 2PF)
Map OS - SH619289
Yn enghraifft wych o Goetir Hynafol gyda chyfoeth o fwsoglau, llysiau'r afu a rhedyn, mae Gwarchodfa Coed Crafnant yn cynnwys dwy goetir nodedig; Coed Crafnant a Choed Dolbebin.
Gyda'i gilydd, maent yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig helaeth Rhinog yn y Parc Cenedlaethol. Mae'r warchodfa, sy'n 49 hectar o ran maint, yn bwysig am ei hamrywiaeth o blanhigion cyntefig, fel mwsoglau a llysiau'r afu. Mae'r rhain yn dibynnu ar amgylchedd cynnes, llaith i oroesi. Mae'r canopi brodorol o goed derw wedi darparu'r amgylchedd yma ers rhyw 6,000 o flynyddoedd. Mae'r coed yn gartref hefyd i sawl math o drychfil, aderyn a mamal.
Cors y Sarnau
Bala, LL23 7HF
Mae Cors y Sarnau'n dir gwlyb gwerthfawr ac yn enghraifft dda o gors mewn dyffryn isel, lle mae llyn bas wedi datblygu'n gorsydd a siglenni gwlybdir amrywiol. Mae'r math yma o gynefin yn brin iawn yn y DG.
Mae'r safle'n 37 erw o ran maint ac yn gartref i amrywiaeth cyfoethog o gymunedau o blanhigion sy'n adlewyrchu natur ddeinamig yr olyniaeth naturiol. Mae cynefinoedd o gorsudd, siglenni a ffeniau'n ffynnu yma.
Mae wedi cymryd cannoedd o flynyddoedd i'r cymunedau o blanhigion a'r cynedfinoedd a welir yn y warchodfa ddatblygu, ac mae'n hawdd iawn tarfu arnynty ac maent yn tueddu i sychu'n aml.
Mae tri phwll bychan newydd wedi cael wu cloddio yn y warchodfa er mwyn caniatau dŵr agored ar y safle, fel bod modd sicrhau olyniaeth yma ac er mwyn cynyddu'r amrywiaeth yn y warchodfa ac annog gwas y neidr a'r fursen i ddod yma.
Caeau Tan y Bwlch
2 milltir ar hyd lôn trac hyd o Clynnog Fawr, wedi'i arwyddo yn y decharu i Capel Uchaf (Clynnog Fawr, LL54 5DL)
Map OS - SH431488
Mae'r warchodfa'n enwog fel cartref i'r Tegeirian Llydanwyrdd Mawr a gellir gweld y blodau gwynion tyner yn carpedu'r caeau ddiwedd mis Mehefin a thrwy gydol mis Gorffennaf bron. Gyda'r Bengales Benddu, Pys y Ceirw a'r tegeirianau eraill, fel y Tegeirian Cyffredin a Thegeirian Brith y Rhos, i gyd yn blodeuo yn ystod Mehefin / Gorffennaf, dyma'r misoedd gorau i weld y dolydd ar eu gorau yn eu blodau.
Dyma'r amser gorau gefyd i weld glôynnod byw a gwyfynnod, ond braidd yn hwyr mae'n bur debyg ar gyfer canu'r adar sy'n byw yn y prysgwydd is. Mae'r adar hyn, fel y Llwydfron, y Troelwr Bacj, Telor yr Helyg, yr Ardd, y Telor Penddu a llawer mwy, yn canu ar eu gorau ym mis Mai.