Atyniadau
Ffynnon Gybi
Atyniadau
Safle hardd hen ‘ffynnon sanctaidd’ i Sant Cybi o’r chweched ganrif. Mae dwy siambr ffynnon o garreg a bwthyn wedi goroesi.
PaintballWales.com
Gweithgaredd, Atyniadau
Un o'r llefydd gorau i saethu paent (paintball) yng Nghymru. Mae'r parc ger Bangor yng Ngogledd Cymru, gyda golygfeydd godidog o Eryri.
Warrior Woods, Llanddeiniolen, Caernarfon, Gwynedd, LL55 3AW
Plas Tan y Bwlch
Atyniadau
Mae yna derasau ffurfiol, gardd ddŵr a phwll yn rhannau uchaf y gerddi yma. Hefyd ceir yma lawntiau ar lechwedd, llwyni addurnol a choed conwydd, rhai ohonynt wedi'u plannu yn ôl yn Oes Fictoria.
RSPB Conwy
Atyniadau
Mae gwarchodfa natur RSPB Conwy yn gorstir ar lan ddwyreiniol aber Conwy, a grëwyd o ddeunydd a gloddwyd wrth adeiladu twnnel ffordd yr A55. Mae bellach yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt, ac yn lle gwych i gyflwyno teuluoedd i natur.