Atyniadau
Adventure Boat Tours by RibRide
Atyniadau, Darparwr Gweithgareddau
Mae RibRide yn darparu Teithiau Cychod Antur ar hyd Afon Menai ysblennydd, a thu hwnt, gan gynnig amrywiaeth o deithiau drwy gydol y flwyddyn i weddu i wahanol oedrannau a chyllidebau ar eu fflyd gyflym o RIBs cyffrous.
Amgueddfa'r Môr Porthmadog
Atyniadau
Roedd harbwr prysur Porthmadog hyd yn oed yn fwy o dan ei sang 150 mlynedd yn ôl. Dewch i ddarganfod pam yn yr amgueddfa hon, sy’n adrodd stori’r gwaith adeiladu llongau yn y porthladd a’r cyfnod pan oedd y gwaith o allforio llechi yn ei anterth.
Rheilffordd Ucheldir Cymru
Atyniadau
Mae taith fer ar hyd rheilffordd lein gul o Borthmadog yn mynd â chi i Ganolfan Treftadaeth a Siediau Injan, sy’n llawn arddangosfeydd ar dreftadaeth ddiwydiannol a rheilffyrdd gogledd-orllewin Cymru.
Seawake Anglesey Boat Trips
Atyniadau, Darparwr Gweithgareddau
Tripiau golygfaol, anhygoel mewn cychod pŵer RIB ar gyfer hyd at 10 person gyda pheilotiaid cymwys a phrofiadol, yn gadael o Biwmares ac ambell safle arall trwy drefniant arbennig.