Atyniadau
Amgueddfa Lloyd George
Atyniadau
Dysgwch mwy am y gwleidydd cynddeiriog a dadleuol hwn, fu’n arwain Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan gyfrannu at sefydlu’r wladwriaeth les.
Labrinth y Brenin Arthur
Atyniadau
Hwyliwch drwy'r rhaeadr danddaearol i le hudolus llawn dreigiau, cewri a'r Brenin Arthur. Yn nyfnderoedd y Labrinth, trwy geudyllau enfawr a thwneli troellog, darganfyddwch chwedlau Cymreig hynafol wrth gael arweiniad cychwr o’r Oesoedd Tywyll.
Oriel Plas Glyn-y-Weddw
Atyniadau
Mae'r oriel gelf unigryw yma wedi ei lleoli yn Llanbedrog ym Mhen Llŷn darluniadwy. Mae'r Plasty Fictorianaidd Gothig wedi ei restru'n radd II yma yn lle perffaith i weld peth o gelf cyfoes gorau Cymru.
Pen Llŷn Lusitano Stud and Riding Centre
Darparwr Gweithgareddau
Mwynhewch ein golygfeydd hardd trwy farchogaeth ar hyd lonydd gwledig tawel, neu ymdeithiwch ar odrau mynydd Garn Fadryn, a phrofi'r golygfeydd panoramig godidog o Eryri i Borth Neigwl a De Cymru.