Atyniadau
Amgueddfa'r Môr Porthmadog
Atyniadau
Roedd harbwr prysur Porthmadog hyd yn oed yn fwy o dan ei sang 150 mlynedd yn ôl. Dewch i ddarganfod pam yn yr amgueddfa hon, sy’n adrodd stori’r gwaith adeiladu llongau yn y porthladd a’r cyfnod pan oedd y gwaith o allforio llechi yn ei anterth.
Zip World Velocity
Gweithgaredd, Atyniadau
Paratowch ar gyfer profiad gwirioneddol unigryw a gwefreiddiol: y zip cyflymaf yn y byd ers 2013! Esgynnwch dros Chwarel y Penrhyn, lle gallwch deithio ar gyflymder o hyd at a thros 100 mya wrth fwynhau golygfeydd na ellir eu curo o Eryri.
Zip World Caverns
Gweithgaredd, Atyniadau
Mae Zip World Caverns yn antur tanddaearol hynod o gyffrous ac atmosfferig sydd wedi bod yn anhygyrch am bron i 200 mlynedd. Cymerwch daith drwy'r cromenni dan y ddaear ar linellau zip, pontydd rhaff, trwy ferrata a thwneli.