Atyniadau
Nature’s Work
Darparwr Gweithgareddau
Mae Nature's Work yn cynnig teithiau tywys, teithiau cerdded mynydd, sgramblo a theithiau natur a bywyd gwyllt ar draws Eryri. Wedi'i redeg gan Arweinydd Mynydd Rhyngwladol profiadol a chymwysedig ac arbenigwr natur.
NAVSAR Marine
Darparwr Gweithgareddau
Mae NAVSAR Marine yn cynnig ystod o gyrsiau hyfforddi RYA ar gyfer trin a llywio cychod yn ddiogel, a gallant ddarparu hyfforddiant cychod pŵer, jetski, cwch eich hun a gwasanaethau morol eraill.
Nomad
Darparwr Gweithgareddau
Mae Nomad yn cynnig encilfeydd, i oedolion, wedi'u lleoli yn ymylon gwylltiroedd Eryri. Mae Nomad yn brofiad preswyl cynhwysfawr, gyda llety cynfas clyd a bwyd swmpus bendigedig wedi'i goginio dros y tân. Maent yn edrych ar eich hôl go iawn!
Phill George Mountain Guide
Darparwr Gweithgareddau
Wedi'i leoli yn Eryri, mae Phill George yn arbenigo mewn Darparu Gwobrau Cyrff Llywodraethol Cenedlaethol ar gyfer Arweinydd Mynydd, Hyfforddwr Dringo Creigiau (Haf a Gaeaf), (WGL) Mynydd a Gweundir a Gwobrau Arweinydd Iseldir.
Tan y Bwlch Cottage, 16/17 Pentre Castell, Llanberis, Gwynedd, LL55 4UB
Plas Caerdeon Outdoor Education Centre
Darparwr Gweithgareddau
Ym mherchnogaeth ac yn cael ei weithredu gan Brifysgol Lerpwl Hope, mae Canolfan Addysg Awyr Agored Plas Caerdeon yn darparu cyrsiau gweithgaredd awyr agored preswyl i ystod eang o grwpiau allanol, gan gynnwys ysgolion, grwpiau ieuenctid o bob oed
Porth Neigwl
Atyniadau
Daw’r enw dramatig Saesneg ar yr ardal hon oherwydd ei siâp hanner cylch, sydd yn tebygu i geg llydan agored. Daw ei dimensiwn uffernol oddi wth nodweddion gorllewinol, ffyrnig, sydd yn cynnig ychydig iawn o gysgod i forwyr.
Llanengan, Gwynedd, LL53 7LG