Mae Lôn Las Menai yn llwybr 6.5km o hyd sy’n rhedeg rhwng tref hanesyddol Caernarfon a phentref Y Felinheli. O Gaernarfon mae’r llwybr wyneb tarmac yn dilyn y cyn reilffordd gyfochrog a’r afon Menai, o’r llwybr cewch fwynhau golygfeydd ar draws i Ynys Môn. Cyn cyrraedd Y Felinheli byddwch yn mynd heibio’n agos i’r Ganolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol ym Mhlas Menai.
Yn Y Felinheli rhaid dilyn y ffordd sy’n arwain i mewn i’r pentref am ychydig cyn mynd oddi ar y ffordd a heibio i adeilad cyn stesion Y Felinheli.
Pellter: 6.5 km / 4.5 milltir
Amcan amser: 2 awr
Map Arolwg Ordnans: OS Explorer Map 115
Parcio: Safle Shell, Caernarfon