Ffordd Brailsford Way

Mae Syr David Brailsford wedi bod yn un o'r ffigurau amlycaf ym myd Beicio Prydeinig. Dros y degawd diwethaf mae wedi eu harwain i lwyddiant - Tour de France, Tour of Britain a Medalau Aur Olympaidd. Pa ffordd well i dalu teyrnged i'r cawr lleol na chyflwyno dau lwybr beicio syfrdanol er anrhydedd iddo? Y ddau lwybr beicio ‘Ffordd Brailsford Way’ yw taith 50 milltir a thaith 75 milltir o hyd. 

'Nid oed dim gwell seiclo, neu ran fwyaf trawiadol o'r byd nag Eryri.' Syr Dave Brailsford CBE

Sir Dave Brailsford

O lannau’r Fenai ymlaen at Gastell Caernarfon, sy’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, mae’r llwybrau hefyd yn cynnwys cestyll Llywelyn ap Gruffydd o’r 13eg ganrif yn Nolbadarn (Llanberis) a Dolwydden. Mae llwybr Ffordd Brailsford sy’n cynnwys dringo anhygoel a lawr allt fydd yn cynhyrfu pỳls y beicwyr gorau drwy galon Eryri yn cynnig gwir her i feicwyr profiadol yn ogystal â rhoi cyfle i’r llai profiadol feicio ar hyd rhai o lwybrau fwyaf prydferth y wlad.

Y Llwybrau

Ffordd Brailsford Way Route Map Graphic

Er mwyn dysgu mwy, edrychwch ar y fideo Ffordd Brailsford.

Ffeithiau Diddorol ar hyd y Daith

1. Mae Pen y Pass yn mesur 359 metr (1,180 troedfedd) o uchder a chaiff cychwyn tair taith fyny’r Wyddfa o’r fan hyn (Mwynwyr, Pyg a Chrib Goch).
2. Mae hanes Maentwrog yn nodi fod Twrog wedi taflu carreg fawr lawr allt gan falu allor Paganaidd. Dywedir mai dyma’r garreg a welir heddiw yn mynwent Eglwys Sant Twrog.
3. Mae Pass Crimea, Blaenau Ffestiniog dafliad cared o atyniadau enwog Zip World a Bounce Below.
4. Mae gan Capel Curig boblogaeth o 206 (Cyfrifiad 2011) ond adnabyddir ef fel man enwog ar gyfer cerdded, dringo, mynydda a beicio mynydd.
5. Mae 88% o boblogaeth Penygroes yn siarad Cymraeg.