Llwybrau Beicio Llŷn a Dolgellau

Yn ychwanegol at y nifer o lwybrau beicio oddi ar y ffordd sydd gennym yn yr ardal mae gennym lwybrau dwy ffordd wedi'u arwyddo’n Llŷn a Dolgellau. Mae llwybrau Llŷn yn cael eu huwchraddio yn ddiweddar gyda thaflen newydd wedi'i argraffu sydd ar gael yn lleol ac mae PDF isod i chi ei lawrlwytho. 

Garn Bentyrch Route Map

Teithiau beicio Llŷn

Nid ardal o ruthro drwyddi yw Llŷn ac Eifionydd a pa ffordd well o fwynhau'r fro nag yn hamddenol ar gefn beic. Fyddwch  chi byth ymhell o'r môr na'r mynyddoedd er mai bryniau ydynt mewn gwirionedd. Dilynwch y lonydd culion tawel, gyda'r cloddiau o bobtu yn llawn o flodau yn eu tymor - briallu, blodyn neidr, bysedd y cŵn, bwtsias y gog, gwyddfid, brenhines y weirglodd. Er mai ardal gymharol ddi-goed ydyw cewch eich cysgodi gan ddrain gwynion a duon, eithin a banadl sydd yn tyfu ar y gwrychoedd. Yn Eifionydd mae'r griafolen gyda'i aeron oren yn amlwg iawn. Ynn, derw, llwyfen a masarn yw'r coed mwyaf.

Mynydd yr Ystum

Cychwyn a Gorffen: Canol pentref Aberdaron
Parcio: Canol pentref Aberdaron
Hyd y Daith: 19 milltir
Amser: 2 - 3 awr
Trafnidiaeth Gyhoeddus Agosaf: Rheilffordd: Pwllheli
Gwasanaethau agosaf ar gyfer beicwyr: Edge of Wales, Aberdaron, 01758 760652.
Partiau a thrwsio - Llŷn Cycle Centre, Yr Ala, Pwllheli, 01758 612414.

Ar ran gyntaf y daith, o Aberdaron ac ar hyd yr arfordir, byddwch yn dilyn Ffordd y Pererinion a redai o Glynnog Fawr i Ynys Enlli. Yn Eglwys Hywyn Sant mae dwy garreg fedd o'r 6ed Ganrif ac yn Y Gegin Fawr, sy'n gaffi poblogaidd, y gorffwysai'r pererinion cyn mentro ar draws y Swnt stormus. Mae hanes yn glynu yn dynn ym mhendraw Llŷn. Ewch heibio i gromlech, maen hir a ffatri arfau Oes y Cerrig, a bydd modd galw yn yr eglwys dawel a hardd yn Llangwnnadl - cyrchfan arall i'r seintiau. 

Garn Fadryn

Cychwyn a Gorffen: Canolfan Dwristiaeth Abersoch
Parcio: ger y Neuadd
Hyd y Daith: 27 milltir
Amser: 3-4 awr
Trafnidiaeth Gyhoeddus Agosaf: Rheilffordd: Pwllheli
Gwasanaethau agosaf ar gyfer beicwyr: Edge of Wales, Aberdaron, 01758 760652.
Partiau a thrwsio - Llŷn Cycle Centre, Yr Ala, Pwllheli, 01758 612414.

Wrth ddringo o Abersoch i Fynytho fe welwch Garn Fadryn o'ch blaenau, ac ar y chwith bydd Porth Neigwl, Ynys Enlli a Mynydd y Rhiw. Yn y safle picnic yng nghysgod Y Foel Gron, Mynytho, cewch fwynhau golygfeydd ysblennydd dros Fae Ceredigion ac at fynyddoedd Meirionnydd. Mae'r Ynysoedd Tudwal yn gorwedd yn dawel yng nghanol prysurdeb Bae Abersoch. 

Garn Boduan

Cychwyn a Gorffen: Y Groes, Nefyn
Parcio: Stryd y Plas, Nefyn
Hyd y Daith: 17 milltir
Amser: 2 - 3 awr
Trafnidiaeth Gyhoeddus Agosaf: Rheilffordd: Pwllheli
Gwasanaethau agosaf ar gyfer beicwyr: Edge of Wales, Aberdaron, 01758 760652.
Partiau a thrwsio - Llŷn Cycle Centre, Yr Ala, Pwllheli, 01758 612414.

Mae Nefyn yn dref arbennig a dderbyniodd er siarter gan y Tywysog Du ym 1355. Mae iddi hanes llawn rhamant. Bu yn enwog am ei phenwaig a gwelir y tri phennog ar arfbais y dref. Ceir Amgueddfa Forwrol yn yr hen eglwys. Wrth ddringo'r allt i fyny at Fynydd Nefyn edrychwch yn ôl ar yr olygfa ysblennydd o Faeau Nefyn a Phorthdinllaen. Bu'r ddau fae yn enwog am adeiladu llongau ac yn borthladdoedd llongau hwyliau prysur. Tri chopa'r Eifl sydd i'w gweld ar y chwith.

Garn Bentyrch

Cychwyn a Gorffen: Maes parcio gyferbyn a Madryn Arms, Chwilog
Parcio: gyferbyn a Madryn Arms, Chwilog
Hyd y Daith: 14 milltir
Amser: 2 - 2½ awr
Trafnidiaeth Gyhoeddus Agosaf: Rheilfford: Pwllheli
Edge of Wales, Aberdaron, 01758 760652.
Partiau a thrwsio - Llŷn Cycle Centre, Yr Ala, Pwllheli, 01758 612414. 

Dyma daith hamddenol gyda'r ffordd yn bur wastad trwy ganol Eifionydd, 'y tawel gwmwd hwn'.
Un nodwedd enwocaf yr ardal ydi'r Lôn Goed sy'n ymestyn i'r gogledd o Afonwen yng nghyffiniau Chwilog hyd at ardal Brynengan ar lethrau Mynydd Cennin. Plannwyd ei choed derw a ffawydd yn nechrau'r 19eg Ganrif i wasanaethu ffermydd stad Talhenbont, a phery hyd heddiw yn daith gerdded ddifyr. Ger fferm Betws Fawr byddwch yn croesi'r Lôn Goed am y tro cyntaf ac yn ymuno â Lôn Las Cymru (Taith 8) cyn i honno wahanu ac ymuno yn y man â Lon Eifion. 

Teithiau Beicio Dolgellau 

Ym Mharc Cenedlaethol Eryri ceir golygfeydd anghymarol gydol y flwyddyn ac yma yn ardal Dolgellau mae copaon Cader Idris, Aran Benllyn ac Aran Fawddwy yn gwarchod dyffrynoedd afonydd Eden, Wnion, Aran, Clywedog a Mawddach. Profiad cynhyrfus yw gweld lli'r afon wedi glaw, dail y coed yn rhyfeddod yr hydref, a bref oen bach neu gân mwyalchen yn y gwanwyn.
Yno ar lawr y dyffryn  mae tref Dolgellau yn fan cyfarfod i afonydd, ffyrdd a llwybrau beicio. Dyma dref gyfoethog ei hanes a hardd ei phensaerniaeth gyda dros ddeugant o'r hadeiladau wedi'u cofrestru gan CADW. Mae Dolgellau yn ganolfan ragorol i aros a mentro ar rai o deithiau beicio hyfryd yr ardal. Mae'r ffyrdd gwledig yn gymharol ddi-draffig a fel arfer gellir osgoi'r priffyrdd trwy ddilyn llwybrau beicio cyfagos

Cader Idris Cader Idris Route Map

Cychwyn a Gorffen: Canolfan Hamdden Glan Wnion
Parcio: Y Marian, Dolgellau
Hyd y Daith: 21 milltir
Amser: 3 - 4 awr
Trafnidiaeth Gyhoeddus Agosaf: Rheilffordd: Morfa Mawddach, Abermaw

Datblygodd tref Dolgellau, gyda'i phensaeniaeth arbennig, pan oedd masnach wlân yr ei fri.
Byddwch yn dringo o Ddolgellau i gyfeiriad Cader Idris (983m), a bydd y mynydd enwog hwn o fewn eich golwg gydol y daith. Dyma'r mynydd urddasol sy'n teyrnasu dros yr ardal. Cewch fwynhau gelltydd coediog cysgodol a gwlad agored gyda'i golygfeydd ysbeidiol o ddyffrynnoedd a chadernid clogwyni.  

Taith Lôn MawddachMawddach Route Map

Cychwyn a Gorffen: 
Parcio: Y Marian, Dolgellau
Hyd y Daith: 18 milltir
Amser: 2 awr
Trafnidiaeth Gyhoeddus Agosaf: Rheilffordd : Abermaw, Morfa Mawddach 

Mae'r daith hon ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn dilyn hen drac rheilffordd Dolgellau i Abermaw gan ddilyn afonydd Wnion a Mawddach a hawdd deall pam fod yr aber hwn yn cael ei ystyried yn un o'n mannau harddaf. Mae pob tro yn yr afon yn cynnig golygfa ryfeddol. 
Profodd y dyffryn sawl newid yn y gorffennol. Defnyddiwyd derw'r coedlannau yn y ddeunawfed ganrif i adeiladu llongau  ar gyfer cario gwlanen arw gwehyddion yr ardal i'r Amerig. 

Taith TrawsfynyddTrawsfynydd Route Map

Cychwyn a Gorffen: Maes Parcio'r Marian, Dolgellau
Parcio: Y Marian, Dolgellau 
Hyd y Daith: i Goed y Brenin ac yn ôl -17 milltir i Trawsfynydd ac yn ôl 28 milltir
Amser: 2 - 3 awr
Trafnidiaeth Gyhoeddus Agosaf:  Rheilffordd: Morfa Mawddach

Ar y daith hon byddwch yn dilyn afonydd Wnion, Mawddach, Eden a'r Gain. Bydd dilyn pob yn ei thro yn cynnig amrywiaeth o brofiadau gwerthfawr ym mynyddoedd a dyffrynoedd Meirionnydd.
 Byddwch yn gadael yr hen briffordd fel y codwch i gyfeiriad Ganllwyd ac yn ei gadael ar gyrrion Coed y Brenin. Mae'r pum milltir o daith trwy Goed y Brenin yn serth a garw ac yn addas i'r cymharol heini a'r profiadol.  

Dolgellau i FachynllethDolgellau to Machynlleth Route Map

Cychwyn a Gorffen: Canolfan Hamdden Glan Wnion, Dolgellau
Parcio: Y Marian, Dolgellau
Hyd y Daith: 28 milltir
Amser: 3½ awr 
Trafnidiaeth Gyhoeddus Agosaf: Rheilffordd: Machynlleth

Mae'r daith yma i'r de yn dilyn llwybr Rhwydwaith 8 Lon Las Cymru. Mae'r sawl sy'n mynd ar y daith hon yn wynebu 3 milltir o ddringo caled i uchder o 350m ar ran gyntaf y daith. Ond mae'r golygfeydd yn ystod y dringo ac wrth ddisgyn i Gwm Hafod Oer yn drawiadol. Mae wyneb tar ardderchog i'r ffordd fynyddig sy'n arwain i Aberllefenni ond cymerwch ofal gan fod sawl giât wedi eu gosod ar ei thraws. Mae'r olygfa yn newid yn sydyn yn Aberllefenni, dyma ardal y chwareli llechi, a'r pentrefi wedi arfer dibynnu ar y diwydiant hwn. 

Taith Llyn Penmaen
Penmaenpool Route Map

Cychwyn a Gorffen: Maes Parcio Marian, Dolgellau
Parcio: Y Marian, Dolgellau
Hyd y Daith: 5 milltir
Amser: 45 munud
Trafnidiaeth Gyhoeddus Agosaf:  Rheilffordd: Abermaw, Morfa Mawddach

Taith fer yw hon o Dolgellau i Lyn Penmaen. Pan gychwynwch o'r Marian a dilyn yr Afon Wnion a thrac y rheilffordd a arferai redeg rhwng Rhiwabon ac Abermaw fe sylwch ar bensaerniaeth hynod y dref - yr adeiladau sgwar, solet o'r garreg dolerit leol. Ar y chwith gwelwch gylch Gorsedd y Beirdd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dolgellau 1949. At y dde ar y postyn pren i ddathlu Euro Walk 2000 fe welwch 'Bydded hedd dros bawb' a pha well ffordd i gychwyn ar y daith nag wrth uffuddhau i'r dymuniad a cherdded o'i cwmpas.