Abersoch
Lleoliad glan y môr a chanolfan hwylio/chwaraeon dŵr hynod boblogaidd – a ffasiynol – gyda thraethau a harbwr cysgodol. Rhaglen brysur o ddigwyddiadau hwylio yn ogystal â Wakestock, gŵyl gerddoriaeth a wakeboard fwyaf Ewrop (a gynhelir ym mis Gorffennaf). Bywyd bistro prysur hefyd ynghyd â dewis da o lety ac atyniadau, sy’n cynnwys merlota, tripiau cwch a chanolfan grefftau. Mae Abersoch hefyd yn ganolfan ar gyfer chwe thaith gerdded sy’n amrywio o rai llai na milltir i dros naw milltir.