Aberdaron
Pen draw’r byd ar ei fwyaf delfrydol. Bu’r pentref pysgota hwn yn ddiwedd teithiau pererinion ar eu ffordd i Ynys Enlli, Ynys y 20,000 o seintiau, ac mae’n Warchodfa Natur Genedlaethol ryngwladol enwog oherwydd yr adar sydd yno ac mae hefyd wedi derbyn statws Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol (IDSS) gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol (IDA). Dyma’r safle cyntaf yn Ewrop i dderbyn statws o’r fath.
Roedd RS Thomas, y bardd enwog, yn byw mewn bwthyn o fewn tiroedd hyfryd Plas yn Rhiw, maenordy bychan sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol erbyn hyn. Galwch heibio i ganolfan ddehongli newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Porth y Swnt i gael mwy o hanes tirlun arbennig Llŷn, morluniau a’r dreftadaeth ddiwylliannol cyfoethog. Byddwch yn barod i gael eich swyno gan olygfeydd arfordirol syfrdanol o bentir Mynydd Mawr.
Os yn chwilio am lety a pethau i'w wneud o gwmpas Abermaw yna cliciwch y linciau isod.
Llety: Rhestr I Map
Atyniadau/Gweithgareddau: Rhestr I Map
Llefydd i fwyta: Rhestr I Map