Atyniadau
Clwb Golff Nefyn
Gweithgaredd
Mae'r clwb golff eiconig yn Nefyn yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn cynnig golff cystadleuol i'w holl westeion trwy gydol y flwyddyn mewn lleoliad gwirioneddol ysblennydd.
Clwb Golff Fairbourne
Gweithgaredd
Mae'r cwrs golff 1000 llath par 3 yma yn un gwych ar gyfer dechreuwyr, ac ar agor i'r cyhoedd. Gellir llogi clybiau a pheli. Ar ôl cwblhau eich rownd, ymlaciwch ac edmygwch cadwyn mynyddoedd Cader Idris a'r bryniau uwchben Abermaw.
Fairbourne Railway
Atyniadau
Dyma’r rheilffordd lein gul leiaf yng Nghymru, gyda thrac sy’n mesur dim ond 12¼ modfedd.
Nature’s Work
Darparwr Gweithgareddau
Mae Nature's Work yn cynnig teithiau tywys, teithiau cerdded mynydd, sgramblo a theithiau natur a bywyd gwyllt ar draws Eryri. Wedi'i redeg gan Arweinydd Mynydd Rhyngwladol profiadol a chymwysedig ac arbenigwr natur.
Oriel Plas Glyn-y-Weddw
Atyniadau
Mae'r oriel gelf unigryw yma wedi ei lleoli yn Llanbedrog ym Mhen Llŷn darluniadwy. Mae'r Plasty Fictorianaidd Gothig wedi ei restru'n radd II yma yn lle perffaith i weld peth o gelf cyfoes gorau Cymru.