Mae Syr David Brailsford wedi bod yn un o'r ffigurau amlycaf ym myd Beicio Prydeinig. Pa ffordd well i dalu teyrnged i'r cawr lleol na chyflwyno dau lwybr beicio syfrdanol er anrhydedd iddo?
Y ddau lwybr beicio ‘Ffordd Brailsford Way’ yw taith 50 milltir a thaith 75 milltir o hyd.
O lannau’r Fenai ymlaen at Gastell Caernarfon, sy’n rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, mae’r llwybrau hefyd yn cynnwys cestyll Llywelyn ap Gruffydd o’r 13eg ganrif yn Nolbadarn (Llanberis) a Dolwydden.
Pellter: 120.7 km / 75 milltir or 80.5 km / 50 milltir
Amcan amser: Dibynnol ar lwybr
Map Arolwg Ordnans: OS Explorer OL17 Snowdon & Conwy Valley
Parcio: Digonedd o feysydd parcio Cyngor Gwynedd ar gael