Cestyll a Llefydd Hanesyddol

Cestyll a Muriau Tref Edward I yng Ngwynedd

Mae cestyll Beaumaris a Harlech a rhai cymhleth amddiffynydig yng Nghaernarfon a Chonwy wedi'u lleoli yng Ngwynedd, gogledd Cymru. Mae'r henebion gwych yma yn enghraifft o'r gwladychiad a'r gwaith amddiffyn roedd yn mynd 'mlaen yn ystod teyrnasiad Edward I (1272-1307) a pensaernïol milwrol yr adeg honno. Rhagor o fanylion. 

CADW

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn gweithio i sicrhau amgylchedd hanesyddol hygyrch a ddiogelir yn dda i Gymru.

Eleni, mae Cadw'n annog trigolion Cymru ac ymwelwyr i grwydro Cymru, trwy Lwybrau. Mae'r 131 o leoliadau hanesyddol yn cynnig popeth o gestyll eiconig sy’n sefyll fry uwchben Llwybr Arfordir Cymru, i safleoedd treftadaeth a amgylchynir gan goedwigoedd hynafol.

Beth bynnag rydych chi am ei archwilio, mae’r ymgyrch yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i chi gymryd rhan a dod yn ‘ddilynwyr llwybrau’ treftadaeth ar safleoedd hanesyddol godidog Cymru.

Er mwyn gwneud yr holl grwydro’n haws mae Cadw'n cyflwyno rhai o’n teithiau treftadaeth fel Mapiau Stori ryngweithiol, ddigidol gan gynnwys Cestyll a muriau trefi Edward I. Mae pob taith dreftadaeth yn cynnwys casgliad o henebion ac yn rhoi cefndir byr a lleoliad pob un daith, gan eich helpu i gynllunio eich anturiaethau hanesyddol ac ymweld â chynifer o safleoedd Cadw â phosib.

Castell Caernarfon

Cawres o gaer. Mae cadernid anhygoel Castell Caernarfon yn bresenoldeb bygythiol. Byddai ymosod ar y strwythur enfawr hwn wedi bod yn syniad brawychus. Drwy ddefnyddio carreg i bwysleisio ei awdurdod, creodd y Brenin Edward I un o’r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Yn gwbl haeddiannol o statws Treftadaeth y Byd.

Tyrau crwn sy’n nodweddu’r rhan fwyaf o gestyll, ond nid Caernarfon! Tyrau polygon a welir yma, gyda Thŵr yr Eryr yn goron arnynt. Sylwch hefyd ar y ffordd mae’r cerrig wedi’u trefnu’n ofalus mewn bandiau lliw.

Castell Caernarfon © Hawlfraint y Goron © Crown copyright (2024) Cymru Wales

Nid ar ddamwain y dewiswyd lleoliad y castell mawreddog hwn. Castell mwnt a beili Normanaidd a welwyd ar y safle yn flaenorol, a chyn hynny safai caer Rufeinig gerllaw. Roedd atynfa’r dŵr a mynediad hawdd i’r môr yn golygu bod glannau Afon Seiont yn fan delfrydol ar gyfer y cawr hwn o gastell a adeiladwyd gan Edward.

Nid oedd Edward yn un i golli cyfle i atgyfnerthu ei afael ar y boblogaeth frodorol. Roedd genedigaeth ei fab, Tywysog Seisnig cyntaf Cymru, yn y castell yn 1284, yn ffordd berffaith o ddangos ei oruchafiaeth. Yn 1969, cafodd Tywysog presennol Cymru, EUB Tywysog Siarl ei arwisgo yma.
Mae Castell Caernarfon yn un o wyth safle a ddewiswyd gan Cadw fel canolfan ar gyfer prosiectau cymunedol i gefnogi dathliadau’r Olympiad Diwylliannol yng Nghymru.

Castell Harlech

Rhyfelgyrch Gwyr Harlech. Yn ôl y sôn, mae anthem answyddogol y genedl, un o hoff ganeuon cefnogwyr rygbi a bandiau catrodol fel ei gilydd, yn disgrifio’r gwarchae hiraf yn hanes Prydain (1461-1468) a welwyd yma yn ystod Rhyfeloedd y Rhos. Adeiladwyd model ‘muriau o fewn muriau’ llwyddiannus Edward yn gyflym iawn rhwng 1283 a 1295 gan fyddin o bron i fil o grefftwyr a llafurwyr medrus.

Dim ond y seiri maen gorau o Savoy a ddefnyddiai Edward, a’r seiri coed a’r gofaint gorau o Loegr. Ar y pryd, dyma oedd un o gestyll rhataf Edward. Bargen am ddim ond £8,190.

Mae’r strwythur, a oruchwyliwyd gan feistr gwaith y brenin, James of St. George, yn cynnwys dau gylched o furiau a thyrau a phorthdy dwyreiniol hynod gryf. Roedd hi’n amhosibl codi gwarchae o unrhyw gyfeiriad bron. Ei arf cudd oedd grisiau 200 troedfedd (61m) o hyd sy’n dal i arwain o’r castell at waelod y clogwyn.

Roedd y mynediad i lawr y grisiau i’r môr a chyflenwadau hanfodol yn sicrhau bod bwyd a dŵr ar gael i’r rheini a oedd o dan warchae. Pan gafodd ei adeiladu gyntaf, byddai sianel wedi cysylltu’r castell a’r môr. Gellid bod wedi hwylio cwch i fyny hyd at y ffos. Saith can mlynedd yn ddiweddarach, mae’r llanw wedi cilio ac ymddengys fel pe bai’r castell wedi’i adael ar ôl, yn aros i’r llanw droi unwaith eto.

Mae Castell Harlech yn un o wyth safle a ddewiswyd gan Cadw fel canolfan ar gyfer prosiectau cymunedol i gefnogi dathliadau’r Olympiad Diwylliannol yng Nghymru.

Castell Conwy

Wedi’i adeiladu ar gyfer Edward I, gan Master James of St George, mae’r castell ymhlith y cadarnleoedd canoloesol gorau sydd wedi goroesi ym Mhrydain. Adeilad eithriadol yn wir. Adeilad di-fai, o fawredd ei dyrau uchel a’i lenfuriau i’w gyflwr gwych. Amcangyfrifir bod £15,000 wedi’i wario yn adeiladu’r castell, y swm mwyaf a wariodd Edward mewn cyfnod mor fyr ar unrhyw un o’i gestyll yng Nghymru rhwng 1277 a 1307. Gwariant gwerth chweil.

Mae dau ragfur (pyrth cadarn), wyth tŵr enfawr a neuadd fawr siâp bwa yn rhai o’r nodweddion a welir o fewn ei siâp hir amlwg, sy’n rhannol o ganlyniad i’r graig frig gul y saif y castell arni. Ni welir y cynllun ‘muriau o fewn muriau’ consentrig a ddefnyddiwyd gan Edward yma. Nid oedd ei angen. Roedd y graig yn sylfaen digon diogel ynddi’i hun.

Dywed rhai mai dyma’r fwyaf mawreddog o blith caerau Edward I yng Nghymru. I weld drosoch chi’ch hun, ewch i gyfeiriad y murfylchau. Cewch weld golygfeydd anhygoel o’r mynyddoedd a’r môr.

Os bydd gwedd allanol y castell yn plesio (ac mae’n siŵr o wneud), arhoswch nes i chi gamu i mewn iddo. Gyda ward allanol yn cynnwys neuadd fawr, siambrau a chegin, a ward fewnol o’r neilltu gydag ystafelloedd preifat a chapel brenhinol, mae’n hawdd iawn dychmygu sut y gweithredai Conwy pan fyddai’r teulu brenhinol ar ymweliad â’r dref.

Castell Cricieth

Am ddarlun, am olygfa! Saif y castell ar bentir gyda’r môr yn gymar cyson iddo. Byddai ei borthdy â’i ddau dŵr wedi peri cryn ofn i unrhyw ymosodwr. Roedd gan dywysogion Cymru a brenhinoedd Lloegr gymaint o feddwl o’r castell fel y bu iddo newid dwylo’n rheolaidd.

Wedi’i adeiladu’n wreiddiol gan Lywelyn Fawr, roedd castell y tywysog Cymreig yn cynnwys porthdy o’r math a welid yn Lloegr. Cipiwyd y castell gan luoedd Edward I tua 50 mlynedd yn ddiweddarach, gwnaethpwyd gwelliannau ac addaswyd tŵr er mwyn defnyddio peiriannau taflu cerrig. Yn sicr, byddai system amddiffyn o’r fath wedi peri dychryn i’r rhai islaw!

Seliwyd tynged Cricieth gan Owain Glyn Dŵr pan gafodd y castell ei gipio a’i losgi gan ei filwyr ym mlynyddoedd cynnar y 15ed ganrif. Hwn fyddai gwrthryfel mawr olaf y Cymry yn erbyn y Saeson.

Mae’n bosibl mai Castell Cricieth roddodd yr enw ar y dref yn hytrach na’r gwrthwyneb. Mae’n bosibl bod yr enw’n tarddu o ‘crug caeth’ – yr enw a roddwyd ar y carchar ar ben y bryn, sef swyddogaeth y castell ar un adeg. Mae’n gastell llawn hanes.

Castell Dolbadarn, Llanberis

Codwyd mae'n debyg gan Llywelyn ab Iorwerth ('Llywelyn Fawr') ar ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg a phrif nodwedd y castell yw'r gorthwr mawr a'i dyrau crynion, sy'n dal i sefyll hyd at 50 troedfedd (15.2m) o uchder. 

Castell y Bere, Llanfihangel-y-Pennant

Olion arbennig castell brodorol Cymreig, wedi ei ddechrau mae'n debyg gan y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth ('Llywelyn Fawr') tua 1221.
Rydym yn croesawu cwn cymorth. Croesawn gwn ar dennyn ar ambell safle.

Abaty Cymer, Llanelltyd

Olion sylweddol eglwys abaty Sistersaidd syml a sefydlwyd ym 1198 gan Maredudd ap Cynan.

Plas Mawr, Conwy

Oes Elisabeth. Oes aur? Y Dadeni, Shakespeare…a Phlas Mawr. Trysor o oes Elisabeth – gwerth ei bwysau mewn aur. Y tŷ trefol gwychaf o’i gyfnod ym Mhrydain.

Roedd ei berchennog Robert Wynn, masnachwr dylanwadol uchel ei barch, yn arbennig o hoff o fawredd a lliw. Roedd hefyd yn hoff o westeia – ac yn ŵr hael! Ac yn goron ar y cyfan, tŷ crand a adeiladwyd rhwng 1576 a 1585 yng nghanol strydoedd coblog cul tref ganoloesol Conwy. Tŷ a oedd yn bodloni ei ddyheadau mawr.

Yr hyn sy’n arbennig o wych yw’r gwaith plastr addurniadol yn y neuadd, sydd bellach wedi’i ail-baentio yn ei liwiau llachar gwreiddiol. Mae pob rhan o’r tŷ yn creu argraff, o’r gwaith plastr ar y nenfydau i’r ffrisiau a’r gwaith coed gwych. Chwiliwch am y llythrennau ‘RW’ sy’n ymddangos yn yr arfbeisiau... rhag ofn i chi anghofio pwy oedd meistr y tŷ a’r gŵr oedd yn talu’r biliau.