Y Tŷ Lleiaf ym Mhrydain
Mae'r Tŷ Lleiaf yn mesur 72 modfedd ar draws, 122 modfedd o uchder a 120 modfedd o ddyfnder. Mae'n llwyddo i wasgu mewn ystafell wely ac ardal fyw (gyda chyfleusterau coginio sylfaenol iawn), ac er ei fod yn ymddangos yn fwy addas ar gyfer un, roedd cyplau yn byw ynddo yn y 19eg ganrif. Y tro olaf i bobl fyw ynddo fo oedd yn 1900, pan gafodd ei ddatgan, ynghyd â nifer o eiddo cyfagos, yn anaddas i fyw ynddyn nhw, ond fe'i hachubwyd rhag cael ei ddymchwel i fod yn atyniad i dwristiaid.