Y Nadolig yn Eryri a Phen Llŷn
Hud y Nadolig ar hyd y fro
Heb os nac oni bai, mae mis Rhagfyr yn gwibio heibio. Gyda’r diwrnod mawr yn prysur agosáu, a’r hysbysebion di-baid yn ein hatgoffa i gofio am hyn a’r llall, mae’n hawdd mynd ar goll yn y paratoadau. Ond beth am geisio oedi, a phrofi awyrgylch y tymor yn Eryri a Phen Llŷn eleni?
Er ei fod yntau’n brysur mae Siôn Corn dal yn gwneud amser i ymweld â ni chwarae teg; beth am alw i’w weld yn Zip World Llechwedd? Gyda thaith ar y trên i gyrraedd gweithdy tanddaearol Santa cyn cwrdd â’r dyn ei hun, mae hwn yn siŵr o fod yn brofiad bythgofiadwy i’r plant. Ac os mai trenau sydd yn mynd â’ch bryd mae digon o ddewis. Gallwch gwrdd â Sion Corn a’i gorachod ar Reilffordd Eryri, neu beth am drip canu carolau ar Reilffordd Talyllyn ar yr 21ain? Dyna ffordd hyfryd o ymlacio cyn dydd Nadolig.

Does dim osgoi’r ffaith bod rhaid siopa rhywfaint ym mis Rhagfyr! Ond yn lle syllu ar sgrin ac archebu o bell, beth am grwydro o amgylch rhai o drefi’r fro? O’r Bala i Bwllheli a thu hwnt mae toreth o siopau annibynnol yn llawn cynnyrch unigryw. Galwch draw yn Siop Del yng Nghricieth, Siop Medi yn Nolgellau, Glosters ym Mhorthmadog neu Cwt Tatws ger Tudweiliog ym Mhen Llŷn; ddewch chi ddim o’no yn waglaw.
Erbyn heddiw mae canolfannau garddio hefyd yn llefydd da i fynd â basged mewn llaw. Ar ôl casglu eich coeden, beth am wneud ychydig o siopa Dolig? Rhwng Fron Goch, Canolfan Arddio Bryncir a Tyddyn Sychau mae digon o ddewis. Mae Canolfan Grefftau Corris hefyd yn le ble gallwch wneud eich siopa Nadolig i gyd mewn un tro mwy neu lai! A chofiwch am siopau bach Bangor; beth am bitsa yn Jones’ Pizza a gwydriad o rywbeth blasus ar ôl gorffen gwario?

A sôn am fwyd… boed chi’n siopa i lenwi’r oergell, neu’n ffansïo creu hamper yn llawn cynnyrch blasus i deulu a ffrindiau, ydych chi’n gwybod ble i chwilota? Am botel o win, cosyn o gaws neu goffi arobryn galwch yn siopau Dylanwad, Bonta Deli, Y Groser draw yn Harlech neu Poblado yn Nantlle; mae cynnyrch diguro ym mhob un. Efallai mai stocio’r cwpwrdd diod sydd ar eich rhestr; os felly cofiwch am ein bragdai lleol cyn gwario mewn archfarchnad fawr. Beth am brynu o Fragdy Lleu, Mws Piws neu Gwrw Llŷn? Mae jin a wisgi gwobrwyedig i’w gael draw yn Aber Falls, a digon o ddewis o gwrw a mwy yn Dylan’s a Siop Jac y Do.
Wrth gwrs mae angen paratoi ar gyfer y cinio Nadolig hefyd. Cewch gig o’r safon gorau gan Gigydd Bala, Wavells yn Llanrug, cigydd Edwards o Gonwy neu draw yn Siop Fferm Abersoch.
Un achlysur y bydd nifer ohonom yn edrych ymlaen ato yw’r parti neu ginio Nadolig gyda chriw ffrindiau, criw gwaith neu gymdeithas – sgwrs a gwledd a dim golchi llestri! Os nad ydych chi wedi trefnu eto, peidiwch â phoeni dim. Mae digon o ddewis. Os am gaffi cartrefol sy’n cynnig tamaid blasus dros ginio beth am archebu bwrdd yn Y Sospan yn Nolgellau, Caffi’r Cyfnod yn Y Bala, Becws Melys yng Nghaernarfon neu Gaffi Largo ym Mhwllheli? Wedi codi eu hestyniad diweddar mae digon o le yno i griw golew!

Does dim gwell na thafarn glyd yr adeg yma o’r flwyddyn chwaith, felly opsiwn arall yw trefnu pryd i’ch criw yn Nhafarn y Gader yn Nolgellau, neu beth am Y Torrent? Mae tafarndai croesawgar â bwyd arbennig ledled y sir; dyna chi’r Madryn yn Chwilog, Yr Oakley Arms ym Maentwrog, Ysgeithin yn Nhalybont, Whitehall ym Mhwllheli, y Black Boy yng Nghaernarfon a Tŷ Newydd draw yn Aberdaron. Heb anghofio ein tafarndai cymunedol di-rif.
Mae’n bosib eich bod awydd rhywbeth tra arbennig wedi blwyddyn hir, felly am ddathliad moethus, trefnwch eich dŵ Dolig yng Ngwesty Penmaenuchaf, ym Mhortmeirion neu yn Y Sgŵar yn Nhremadog. Beth am Sheeps & Leeks yng Nghaernarfon, y Fanny Talbot draw ym Mermo, neu’r Bistro yn Yr Hebog ym Meddgelert? Heb anghofio bwyty figan y Foxglove yn Abermaw, Castell Deudraeth a’r Salt Marsh yn Nhywyn… dewis ble i fynd yw’r dasg anoddaf!

Peth braf yw cael digwyddiad Nadoligaidd ar y calendr i edrych ymlaen ato hefyd. Gallwch fynd i wylio ffilm Nadoligaidd yn y pictiwrs; mae sawl hen glasur yn cael eu dangos yr adeg hon o’r flwyddyn. Neu am flas o nostalgia, ewch i weld cynhyrchiad myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor o sioe gerdd ‘Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig’. Os mai cerddoriaeth glasurol sy’n mynd â’ch bryd byddwch yn siŵr o fwynhau cyngerdd gan Gerddorfa Symffonia Prifysgol Bangor yn Neuadd Pritchard-Jones y Brifysgol, neu gyngerdd TONIC ’Dolig yng nghwmni Rhys Meirion a Chôr Lleisiau Llawen yn y Galeri yng Nghaernarfon. Mae sawl gig ar y gweill hefyd, bachwch eich tocynnau nawr i weld Bwncath, Ofergoelus a Crawia draw yn Neuadd Ogwen ar yr 27ain, neu Bwncath a Sgwib yn Nhŷ Siamas, Dolgellau ar yr 28ain.
Ar ôl y miri a’r rhialtwch, y dathlu a’r gwledda, does dim i guro lapio’n gynnes a chodi allan am dro. Ewch i gerdded yng ngwynt y môr a rhoi tro hir i’r ci cyn cael paned neu win cynnes cyn dod adra. Bydd caffi Braf yn Ninas Dinlle, y Last Inn yn Abermaw, Tŷ Coch ar draeth Porthdinllaen a Chaffi Castell yn Harlech yn estyn croeso cynnes gydol yr ŵyl.
Felly cyn i’r coed a’r goleuadau bychain ddiflannu am flwyddyn arall, ewch ar grwydr yn eich milltir sgwâr, a phrofi hud y Nadolig yn y rhan fach ond arbennig hon o’r byd.