Wynebau Cyfarwydd, Profiadau Newydd yn Llŷn ac Eifionydd
Rydym am ganolbwyntio yma ar gornel o ogledd orllewin Cymru - yn benodol Penrhyn Llŷn, Cricieth, Porthmadog a Bro Ffestiniog. Er mai dim ond rhan fechan o Eryri yw'r ardal yma, mae pob modfedd yn llawn o bethau i'w gweld a'u gwneud.
Efallai eich bod yn gyfarwydd â'r rhan yma o Gymru. Ond mae yna rywbeth i'w ddweud dros ail-ymweld â hen ffrind. Gallwch ymlacio ac adfer ac nid oes dim byd annisgwyl i darfu arnoch, mae popeth yn gyfleus a dim trafferthion teithio (pwy sy'n mwynhau mynd i faes awyr y dyddiau hyn?).
Ond nid ydym yn awgrymu mai dyma'r lle i ddim ond eistedd yn ôl ac edrych ar y byd yn mynd heibio (ond cewch wneud os ydych yn dymuno, wrth gwrs). Mae Llŷn, Cricieth, Porthmadog a Ffestiniog yn gyforiog o atyniadau, gweithgareddau a phrofiadau - popeth o dreftadaeth i gymunedau sy'n cefnogi diwylliant lleol sy'n ffynnu, i gyd wedi eu gosod mewn tirlun awyr agored sy'n gyfoethog o ran bywyd gwyllt a harddwch naturiol.
Mae rhywbeth yma i bob cenhedlaeth. Dewch yma eich hun i ddod i'n hadnabod hyd yn oed yn well. Neu deithio gyda theulu a ffrindiau.
Dyma rai o'r mannau a'r profiadau na ddylech eu colli.
Tro ar y trên
Eisteddwch yn ôl gan adael i'r trên eich cludo. Fel canolfan i dair rheilffordd dreftadaeth, mae Porthmadog yn wych. Rheilffordd Eryri yw rheilffordd dreftadaeth hiraf y DU ac mae'n rhedeg am 25 milltir/40km o Borthmadog drwy Fwlch hyfryd Aberglaslyn, heibio pentref godidog Beddgelert cyn cyrraedd Caernarfon. Trefnwch sedd ar un o gerbydau moethus Dosbarth Cyntaf Pullman i gael blas o foethusrwydd hen ffasiwn tebyg i'r Orient-Express.
Yn ôl cylchgrawn 'Which', Rheilffordd Ffestiniog, ei chwaer reilffordd, yw'r rheilffordd fwyaf golygfaol yn Ewrop. Rydym yn ffyddiog y byddwch chithau'n cytuno wrth deithio ar y rheilffordd gul hynaf yn y byd. Yn wreiddiol, adeiladwyd y rheilffordd i gludo llechi o chwareli Blaenau Ffestiniog i Borthmadog, ac mae'n ymlwybro ar hyd llwybr dramatig drwy dwneli mynyddig a thrwy Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru UNESCO.
Os ydy amser yn brin, ewch ar Reilffordd Ucheldir Cymru. Bydd y rheilffordd groesawus hon, gyda staff sy'n wirfoddolwyr yn bennaf, yn eich cludo o Borthmadog i orsaf fach Pen-y-Mount. Unwaith y byddwch wedi cyrraedd eich cyrchfan, mae yno amgueddfa treftadaeth y rheilffordd i'w harchwilio, a siop anrhegion sy'n llawn o bethau difyr yn gysylltiedig â'r rheilffordd a chaffi clyd. Mae hyd yn oed reilffordd fechan yno i chi fynd arni (os nad ydych eisoes wedi bodloni eich hoffter o drenau).
Cerrig clasurol
Cloddiwyd am lechi yn Eryri ers canrifoedd, ond roedd hyn ar ei anterth yng nghyfnod Fictoria pan oedd galw am lechi oherwydd adeiladu tai byd-eang. Gyda'i chwareli llydan, a'r cloddfeydd dwfn, tywyll roedd Blaenau Ffestiniog yn ganolog i'r diwydiant llechi, gan ennill y llysenw 'y dref a roddodd doeau ar adeiladau'r byd'. Mae hefyd bellach yn rhan ganolog o Dirwedd Llechi Gogledd Cymru, un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO mwyaf newydd y DU.
Beth am fynd ar daith i orffennol diwydiannol Eryri ar Daith y Pwll Dwfn yn Zip World Llechwedd, cyn-chwarel enfawr sydd bellach wedi ei hail-eni fel atyniad antur a threftadaeth. Mae'r daith yn mynd â chi 500tr/152m o dan y ddaear (drwy daith ar reilffordd cebl mwyaf serth Ewrop) i fyd tanddaearol anhygoel. Byddwch yn archwilio rhwydwaith o geudyllau sydd ar 16 lefel - yn cynnwys un a ddefnyddir erbyn hyn i aeddfedu caws lleol enwog.
Os oes gennych blant efo chi mi fyddant wrth eu boddau gyda phrofiad Zip World wrth wibio uwchben y dirwedd lechi ysgythrog.
Mamiaith
Yn llechu ar yr arfordir ar ddiwedd ffordd droellog ar ochr ogleddol Llŷn, mae Nant Gwrtheyrn hefyd yn gyn-safle diwydiannol sy'n mwynhau bywyd newydd. Gadawyd y pentref, a fu unwaith yn ganolfan lechi brysur, yng nghanol yr ugeinfed ganrif.
Achubwyd y pentref rhag bod yn adfail ac mae bellach yn gartref i ganolfan iaith a threftadaeth sy'n addysgu'r Gymraeg i siaradwyr newydd a phrofiadol fel ei gilydd. Hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu dysgu'r iaith gynhenid, mae yn lle gwerth chweil i ymweld ag o. Bydd y lleoliad anhygoel a'r cefndir o glogwyni yn eich syfrdanu wrth i chi gerdded heibio rhesi o fythynnod chwarelwyr wedi eu hadfer, archwilio gorffennol diwydiannol y pentref a darganfod chwedlau a mythau lleol.
Mwy Na Geiriau
Dyma le fydd efallai yn newydd i chi. Ar fryncyn uwchben Llyn Trawsfynydd saif Yr Ysgwrn sy'n atyniad diwylliannol unigryw sy'n cynnig llawer mewn lle cymharol fach.
Dyma gartref y bardd Ellis Humphrey Evans (sy'n fwy adnabyddus fel Hedd Wyn). Erbyn hyn mae hen ffermdy'r teulu yn ganolfan i ymwelwyr sy'n dathlu un o gymeriadau pwysig llenyddiaeth Cymru, gan roi cipolwg ysbrydoledig ar ein traddodiadau diwylliannol.
Mae hefyd yn gapsiwl amser o fywyd gwledig yn nechrau'r ugeinfed ganrif, gyda chegin glyd y ffermdy wedi ei hadfer i edrych yn union fel yr oedd yn nyddiau Hedd Wyn. Yn olaf, mae yn ddarlun teimladwy o effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar gymunedau gogledd Cymru a adroddir drwy hanes 33 o ddynion lleol aeth i ffwrdd i'r rhyfel.
Mae'r hanesion hyn hyd yn oed yn fwy ingol gan y bu farw Hedd Wyn ym mrwydr Passchendale yn ystod y rhyfel. Cyflwynwyd cadair y bardd iddo wedi ei farwolaeth, sef y brif wobr yn Eisteddfod Genedlaethol 1917, am ei gerdd enwocaf, Yr Arwr.
Gwaith celf
Dewch i fwynhau ychydig o ddiwylliant (a golygfeydd godidog o'r môr) yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog ar ochr ddeheuol Llŷn. Mae'r oriel mewn plasty addurniadol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dyma oriel hynaf Cymru sy'n arddangos ein diwylliant celf bywiog.
Y tu mewn fe welwch orielau braf gyda rhaglen o arddangosfeydd newidiol gan artistiaid sy'n gweithio gyda phaent, pensel a chrochenwaith. Mae'r tiroedd glaswelltog y tu allan wedi eu harddu gan gerfluniau chwaethus a rhwydwaith o lwybrau (mae un o'r llwybrau hefyd yn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru).
Mae hefyd yn werth ymweld â chaffi newydd Plas Glyn-y-weddw. Mae'r gromen ddisglair - ar ffurf môr-ddraenog arian anferthol - yn llawn golau naturiol (a phrydau blasus wnaed o gynhwysion lleol, ffres).
Mae'n lle hardd
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, i fod yn gywir. Mae ardal hyfryd Penrhyn Llŷn yn un o ddim ond pump AHNE yng Nghymru. Cafodd y dynodiad oherwydd ei milltiroedd o arfordir a chefn gwlad heb ei ddifetha, bywyd gwyllt amrywiol a'r diwylliant unigryw (mae tua 70% o boblogaeth Penrhyn Llŷn yn siaradwyr Cymraeg).
Plymiwch i dreftadaeth ddofn Llŷn gan alw yn gyntaf yng nghanolfan ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Porth y Swnt. Mae'r ganolfan ddehongli flaengar yma yn Aberdaron ar fin gorllewinol y penrhyn yn defnyddio sŵn, golau. cerflunwaith a gwaith celf i adrodd stori y lle arbennig hwn mewn dulliau dirifedi fydd yn eich syfrdanu.
Cewch weld y bwlb gwydr enfawr 8tr/2.4m fu unwaith yn goleuo'r goleudy ar Ynys Enlli, syllwch ar y gorffennol drwy'r perisgopau sy'n llawn delweddau hanesyddol, a beth am wlychu eich dwylo gyda'r Swnt - gosodiad rhyngweithiol sy'n gadael i chi lywio'r llanw sy'n chwyrlio yn Swnt Enlli.
Ynys y trysor
Os ydych eisiau crwydro ymhellach, ewch am daith drosodd i Ynys Enlli, sy'n gorwedd yn y môr oddi ar ymyl gorllewinol Llŷn. Er mai dim ond 179ha/1.79km sgwâr ydyw mae'r ynys fechan yma yn arbennig o gyfoethog o ran treftadaeth naturiol a diwylliannol. Gelwir Ynys Enlli yn 'Ynys yr 20,000 o seintiau', roedd yn fangre gynnar i Gristnogaeth Celtaidd ac mae’n dal i ddenu pererinion sy'n chwilio am lonyddwch ysbrydol.
Dynodwyd Ynys Enlli yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a daeth hefyd yn noddfa i bobl sy'n gwylio bywyd gwyllt. Dewch â'ch ysbienddrych efo chi i gael golwg agosach ar adar y môr fel Adar Drycin Manaw, Brain Coesgoch a'r Palod - a hefyd cytref o 200 o forloi llwyd yr Iwerydd.
Yn fwy diweddar, dyfarnwyd statws newydd i'r ynys fel Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf Ewrop. Wedi i'r haul fachlud, mae'r diffyg cyfan gwbl bron o lygredd golau yn darparu golygfeydd serol o'r bydysawd.
Prif leoliad
Mae pentref bach Llanystumdwy, y tu allan i Gricieth, wedi cael cryn ddylanwad ar hanes. Mae hyn oherwydd mab enwocaf y pentref, y cyn Brif Weinidog David Lloyd George, a arweiniodd y DU drwy'r Rhyfel Byd Cyntaf gan chwarae rhan allweddol mewn diwygio cymdeithasol.
Erbyn hyn mae'r tŷ lle treuliodd Lloyd George ei blentyndod yn amgueddfa, a'r tŷ wedi ei adfer i edrych fel y byddai wedi edrych pan oedd Lloyd George yn byw yno rhwng 1864 a 1880. Mae'n llawn gwrthrychau, darluniau a lluniau sy'n adrodd hanes bywyd y dyn ei hun - gan gynnwys hen ddesg ysgrifennu Lloyd George a chopi o Gytundeb Versailles, y cytundeb a derfynodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn ffurfiol.
Ar ôl i'w yrfa mewn gwleidyddiaeth ddod i ben, dychwelodd Lloyd George i Lanystumdwy a bu farw yma yn 1945. Saif safle trawiadol ei fedd - a ddyluniwyd gan Clough Williams-Elis sy'n enwog am ddylunio Portmeirion - ar lannau afon Dwyfor, bellter byr oddi wrth yr amgueddfa.
Ar y môr
Mae gan y dyfroedd gwyllt o amgylch Llŷn ddigon o straeon i'w hadrodd. Gallwch glywed am rai ohonynt yn Amgueddfa Forwrol Llŷn yn Nefyn, casgliad cyfareddol o wrthrychau sy'n adrodd hanes morwrol y penrhyn. Cewch weld teclynnau mordwyo fel cwmpawdau a secstantau, modelau manwl o hen longau hwylio a chardiau post anfonwyd gan aelodau o griwiau llongau at deulu a ffrindiau oedd yn aros amdanynt gartref.
Gyda hwylio daw llongddrylliadau. Roedd y dyfroedd tymhestlog o amgylch Porth Neigwl yng ngorllewin Llŷn yn ddiwedd i amryw o longau yn ystod y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ewch i grwydro ar hyd y traeth ysgubol a chewch weld olion rhai o'r llongddrylliadau yn dod i'r golwg yn y tywod.
Adeiladau mawreddog
Saif olion rhamantaidd Castell Cricieth ar safle dramatig ar fryncyn caregog uwchben y môr a dyma yw canolbwynt gweledol y dref glan môr. Mae Castell Cricieth yn anghyffredin ymysg yr amryfal gaerau yng ngogledd Cymru gan iddo gael ei adeiladu a'i ddinistrio gan y Cymry. Adeiladwyd y castell gan y tywysogion cynhenid, Llywelyn ap Iorwerth a'i ŵyr Llywelyn ap Gruffudd yn y drydedd ganrif ar ddeg, cafodd ei ddymchwel ym 1403 gan Owain Glyndŵr, ar ôl i'r castell syrthio i ddwylo'r Saeson.
Er ei fod ar raddfa lai na Chastell Cricieth, mae Penarth Fawr ger Pwllheli yr un mor drawiadol. Adeiladwyd y tŷ yn y bymthegfed ganrif, mae yn enghraifft prin o'r math o dŷ y byddai'r bonedd lleol wedi byw ynddo ar y pryd. Ei nodwedd mwyaf trawiadol yw'r neuadd ganolog, man byw efo digon o le a nenfydau uchel wedi eu cynnal gan drefniant cywrain o ddistiau pren a thrawstiau.
Fyddech chi ddim callach erbyn hyn, ond roedd maenordy taclus Plas yn Rhiw ger Aberdaron yn adfail gyda gardd wedi gordyfu tan ganol yr ugeinfed ganrif. Cafodd ei achub gan dair chwaer (Eileen, Honora a Lorna Keating) fu'n adfer yr adeilad ac ail-lunio'r ardd. Mae beth oedd unwaith yn llawn mieri clymog, mor uchel fel eu bod yn rhwystro mynediad at ddrws ffrynt y tŷ, bellach yn rhwydwaith lliwgar o ystafelloedd gardd caeedig a luniwyd gan wrychoedd coed bocs trefnus.
Ar adain
Mae Dyffryn Glaslyn yn gartref i'r gweilch y pysgod cyntaf i fagu yng Nghymru ers canrifoedd ac yn un o'r safleoedd naturiol pwysicaf. Ers eu gweld yma am y tro cyntaf yn nechrau'r 2000'au, mae tua 100 o'r adar ysglyfaethus ysblennydd yma wedi eu magu yma ac wedi mynd ymlaen i gael eu cywion eu hunain.
Gallwch gael golwg fanylach ar weilch y pysgod ger Pont Croesor, canolfan ymwelwyr a gwylio adar gaiff ei rhedeg gan y gymuned ym Mhrenteg ger Porthmadog. Nid oes raid i chi fod yn adarwr profiadol i weld cip ar yr adar - mae yna delesgopau, cuddfannau a chamera byw sy'n darlledu yn uniongyrchol o'r nythod.
Cymryd gofal
Os ydych yn mynd allan i'r awyr agored yn Eryri, sicrhewch eich bod yn dilyn y Cod Cefn Gwlad am awgrymiadau am sut i fwynhau'r awyr agored eang wrth ymddwyn yn ystyrlon a pharchus.