Tŷ Crafnant - Gwely a Brecwast
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
Lleolir Crafnant House yn Nhrefriw, sydd yn bentref hardd ger Betws y coed yn Nyffryn Conwy darluniadwy. Mae gennym bum llofft y gallwch chi eu dewis, ac mae ein cartref Fictoraidd wedi’i addurno mewn steil modern, bwtîc gydag elfennau unigryw a chelf drwy’r tŷ, ar y cyd â nodweddion gwreiddiol. Mae parcio oddi ar y stryd ar gael i chi yn ein lle gwely a brecwast, a chewch ymlacio yn ein ‘snỳg’ ar gyfer westeion, yn ein lolfa i fyny’r grisiau, neu yn ein gardd wedi’i dirlunio wrth ochr yr afon. Darperir brecwast bob bore yn ein hystafell fwyta, yn bryd a baratoir yn ffres gennym gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig lleol cymaint ag y bo modd. Os hoffech fwyta allan, drws nesaf mae’r Hen Long - tafarn bentref draddodiadol sydd yn cynnig bwyd o safon - ac yn Nhrefriw mae tafarnau a thai bwyta eraill heb fod ymhell oddi wrthym.
Mae teithiau cerdded o’n drws i Eryri - mae dau lyn prydferth uwchben y pentref, Llyn Crafnant a Llyn Geirionydd, ac mae’r pentref wedi’i amgylchynu gan goedwigoedd sydd â rhaeadrau, nentydd ac afonydd. Yng Nghoedwig Gwydir a Phenmachno, sydd heb fod ymhell o’r pentref, mae llwybrau beicio mynydd, ac mae beicio ffyrdd gwych hefyd ar gael o’n drws ffrynt. Byddwn yn cynnig cyfleusterau golchi a lle i gadw eich beiciau, a chan mai beicwyr brwdfrydig ydym, gallwn roi cyngor ar y llwybrau gorau. Tro byr i ffwrdd yn y car mae atyniadau a gweithgareddau antur fel Zip World, Go Below, Gardd Bodnant, Portmeirion, Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, a’r Wyddfa. Hefyd, heb fod ymhell mae digonedd o lefydd fydd yn cynnig diwrnod allan gwych, fel arfordir gogledd Cymru, trefi del fel Conwy (a’i chastell), Llandudno, Llanberis a Chaernarfon, heb sôn am Sir Fôn a Phen Llŷn!