Tŷ Castell
Mae Tŷ Castell yn cynnig profiad bwyta, yfed ac aros arbennig yng nghanol Caernarfon, tafliad carreg o Gastell Caernarfon, ac wedi'i leoli mewn adeilad hanesyddol o fewn muriau'r dref. Yn arbenigo yn y cynnyrch gorau o Wynedd, Cymru a'r byd, cynigir brecwast, cinio a the prynhawn a gyflwynir mewn ffordd arbennig, yn ogystal â phrydau bwyd gyda'r nos ar sail tapas a phrydau ysbrydoledig eraill. Yn Nhŷ Castell, gallwch edrych ymlaen at dderbyn croeso 'Cofi' a blasu profiad unigryw, arbennig a chofiadwy o Gaernarfon a Gogledd Cymru.