Traeth Y Graig Ddu Morfa Bychan

Morfa Bychan, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9YH

Er yr enw, ychydig iawn o ddu a welir yn y traeth hwn! Mae traeth tywodlyd mân y Graig Ddu yn berffaith agored a llydan. Daw’r enw ar y traeth o ochor orllewinol, ble caiff y tirlun ei ddominyddu gan garreg fawr, aml liw, ogofau a phyllau glan y môr (pan fo’r llanw allan) ac ardal sydd yn llawn bywyd gwyllt morol. Mae hanes naturiol yn nodwedd arall yma, diolch i’r twyni tywod lleol lle maent wedi eu datgan fel safle o ‘Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig’. Yn wahanol i’r arfer, fe gewch yrru ar y traeth yma - felly nid yn unig y mae’n le poblogaidd ar gyfer picnic ac adeiladu castelli tywod, ond mae hefyd yn boblogaidd gyda cychod pŵer a beiciau dŵr - ble ceir man arbennig ar eu cyfer. Mae hefyd gyfyngiadau ar gŵn.

Bydd parcio'n anghyfrifol a rhwystro ffyrdd ger y traeth yn ei gwneud hi'n anodd i gerbydau'r gwasanaethau brys pe bai angen iddynt gael mynediad i'r ardal.

Ni ddylai pob cerbyd sy'n gyrru ar y traeth fod yn fwy na'r uchafswm terfyn cyflymder o 10 M.P.H. a byddwch yn ymwybodol o'r llanw sy'n dod i mewn os yn gadael unrhyw gerbyd heb ei oruchwylio.

Rhybudd Diogelwch Traeth Y Graig Ddu Morfa Bychan

Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir. 

Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Morfa Bychan. Edrychwch am yr arwyddion coch sy’n cynnwys gwybodaeth perthnasol am y rhan hynny o’r traeth, gan gynnwys pryd a lle caniateir cŵn.

  • Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt cryf
  • Byddwch yn wyliadwrus o gychod pŵer
  • Byddwch yn wyliadwrus o gerbydau yn gyrru ar y traeth
  • Peidiwch a chael eich dal yn yr ogofau ac o dan y clogwyni gan y llanw
  • Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
  • Llif llanw cyflym, peidiwch a chael eich dal ar y banciau tywod gan y llanw
  • Traeth graddfa serth, byddwch yn wyliadwrus o ddŵr dwfn yn sianel yr harbwr
  • Byddwch yn wyliadwrus o farcud pŵer
  • Peidiwch a nofio yn yr ardal lansio
  • Peidiwch a tyllu na thyrchu yn y twyni tywod

Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Diogelwch Traeth Y Graig Ddu Black Rock Sands Beach Safety

Mwynderau

  • Parcio
  • Toiled
  • Mynedfa i’r Anabl
  • Yn agos i gludiant cyhoeddus