Traeth Tywyn
Tywyn, Gwynedd, LL36 0DE
Mae’r gair Tywyn wedi deillio oddi wrth y geiriau Cymreig am dwyni tywod a glân y môr, a dyma yn union y gwnewch ddarganfod yma. Tywod cadarn sydd yma - a digon ohono. Gwelir digonedd o dwyni tywod ar y rhan ddeheuol o’r traeth, sydd yn oddeutu pum milltir o hyd. Ychydig iawn o gerrig sydd yma - drwy ychwanegu hyn gyda’r nodweddion gorllewinol - mae’n le gwych ar gyfer syrffio. Mae lleoliad agored y traeth eang hwn yn ei wneud yn fan poblogaidd tu hwnt gyda bob math o chwaraeon dŵr eraill, megis sgïo jet. Mae cyfyngiadau ar gŵn ar yr traeth a hefyd parth gwahardd cychod. Mae’r ardal hefyd yn boblogaidd gyda phoblogaeth Bae Ceredigion o ddolffiniaid a moch môr. Yn ogystal â hyn oll ceir promenâd a phwll bychan. Ceir mynediad da i draeth Tywyn a cheir digonedd o barcio, boed hynny am ddim neu mewn meysydd codi tâl. Am fwy o wybodaeth lleol ewch i www.visit-tywyn.co.uk
Rhybudd Diogelwch Traeth Tywyn
Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir.
Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Tywyn. Edrychwch am yr arwyddion coch sy’n cynnwys gwybodaeth perthnasol am y rhan hynny o’r traeth, gan gynnwys pryd a lle caniateir cŵn.
- Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt terfol
- Gofal - tonnau mawr yn torri
- Gofal - gwrthrychau tanddwr
- Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
- Byddwch yn wyliadwrus o farcud pŵer
- Byddwch yn wyliadwrus o gychod pŵer
- Byddwch yn wyliadwrus o gerbydau yn symud ar y llithrfa
- Peidiwch a nofio o fewn 50 medr i'r morglawdd
Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau
Mwynderau
- Parcio
- Toiled
- Mynedfa i’r Anabl
- Siop
- Yn agos i gludiant cyhoeddus