Traeth Cricieth

Cricieth, Gwynedd, LL52 0HU

Caiff y ddau draeth yng Nghricieth eu gwahanu gan y castell canoloesol blaenllaw a phwerus, sydd wedi ei leoli ar bentir bychan.  Mae’r traeth ddwyreiniol yn llawn cerrig man ac yn well i blant, gan fod y dŵr yn fas ac felly yn ei wneud yn fan fwy diogel iddynt chwarae. Mae yna barth gwahardd cychod a gwaharddiadau ar gŵn. Fe ddewch o hyd i Orsaf Bad Achub a maes parcio cyfleus.  Mae’r traeth dwyreiniol, sydd yn gymysgfa o dywod a cherrig man, yn ymestyn ar hyd ‘Marine Crescent’ i ‘Terrace Marine’, mae’r ddau draeth yn cael eu gwarchod oddi wrth dywydd gorllewinol ac yn cael eu cynhesu gan lif y Gwlff.  Pan fo’r llanw allan, daw’r ardal yn le poblogaidd i gerddwyr, oherwydd y golygfeydd godidog o Fae Ceredigion, mynyddoedd Eryri a golygfeydd tuag at ganoldir Cymru.

Rhybudd Diogelwch Traeth Cricieth

Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir. 

Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Criccieth. Edrychwch am yr arwyddion coch sy’n cynnwys gwybodaeth perthnasol am y rhan hynny o’r traeth, gan gynnwys pryd a lle caniateir cŵn.

  • Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt cryf
  • Gofal – tonnau mawr yn torri
  • Byddwch yn wyliadwrus o gychod pŵer
  • Byddwch yn wyliadwrus o gerbydau yn gyrru ar y traeth a’r llithrfa
  • Gofal – gwrthrychau tanddwr
  • Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
  • Clogwyni ansefydlog - peidiwch â dringo neu dyllu i mewn i’r clogwyni
  • Byddwch yn wyliadwrus o ddŵr dwfn
  • Ymyl dirwystr – cymerwch ofal
  • Peidiwch a neidio oddi ar y morglawdd
     

Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Diogelwch Traeth Cricieth Beach Safety

Mwynderau

  • Parcio
  • Toiled
  • Yn agos i gludiant cyhoeddus
  • Siop