Teithiau ar y Trên yn Eryri Mynyddoedd a Môr - a Thu Hwnt
Eisteddwch, ymlaciwch a gadewch i'r trên wneud y gwaith yn y deithlen hon ar hyd Bae Ceredigion o Bwllheli i Aberystwyth - gydag ambell daith i'r mynyddoedd ar reilffyrdd cul ar hyd y ffordd.
Mae'r deithlen enghreifftiol hon yn seiliedig ar amserlenni cyfredol Trainline a'r gwasanaethau rheilffyrdd cul penodol (sy'n gallu newid yn ddyddiol/tymhorol). Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r amserlenni ar gyfer y dyddiadau yr ydych yn bwriadu teithio:
thetrainline.com
festrail.co.uk
rheidolrailway.co.uk
Diwrnod 1
09.34. Gadael Pwllheli a theithio i Borthmadog ar wasanaeth Arfordir y Cambrian, gan deithio drwy Gricieth ar hyd y ffordd.
09.56. Cyrraedd Porthmadog. Bydd gennych amser i gael blas o'r dref fechan brysur a'r porthladd hanesyddol.
11.25. Gadael Porthmadog i deithio ar hyd Rheilffordd lein gul Ffestiniog (sy'n ymestyn am 13½ milltir), wrth iddi wau ei ffordd drwy goedwigoedd derw hynafol i fyny cwm hyfryd i Flaenau Ffestiniog. Saif Blaenau ymhell yn y mynyddoedd, ac yng nghyn 'brifddinas llechi Cymru', fe ddowch o hyd i'r rheswm pam y datblygwyd y rheilffordd yn y lle cyntaf - i gludo llechi o chwareli lleol i harbwr Porthmadog er mwyn eu hallforio ledled y byd.
12.40. Cyrraedd Blaenau Ffestiniog am ginio ac amser rhydd. Gadael am 13:40, gan ddychwelyd i Borthmadog am 15.05.
16.01. Dal trên Arfordir y Cambria o Borthmadog i Aberdyfi. Daw'n amlwg i chi cyn hir pam mai'r lein hon yw un o'r teithiau trên gorau ym Mhrydain - ac Ewrop. Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys pasio dan furiau Castell Harlech, croesfan hanner milltir godidog Aber Mawddach ar bont rheilffordd hiraf Cymru, a'r llwybr i'r de o Fairbourne lle mae Cader Idris yn llithro i mewn i'r môr.
17.33. Cyrraedd Aberdyfi ac aros yma dros nos.
Diwrnod 2
08.22. Dal trên Arfordir y Cambria o Aberdyfi i Aberystwyth, cyrraedd am 09.20 (newid trên yng Nghyffordd Dyfi).
10.30. Gadael Aberystwyth ar reilffordd gul 12 milltir Cwm Rheidol gan deithio i Bontarfynach. Dyma drên fach glasurol arall, sy'n dringo i'r bryniau ar hyd cwm prydferth gyda golygfeydd panoramig dros Fynyddoedd y Cambrian, asgwrn cefn gwyllt Cymru.
11.30. Cyrraedd Pontarfynach a chyfnewid golygfeydd eang am olygfeydd dramatig cyfyngedig yr agendor cul a'r bont unigryw sydd wedi rhoi enw i'r pentref. Ymlwybro i galon y ceunant 300tr/91m hwn sydd wedi'i gerfio gan raeadrau Afon Mynach.
14.15. Dychwelyd o Bontarfynach i Aberystwyth (neu, os yw'n well gennych, ewch â'ch beic efo chi a beiciwch yn ôl ar hyd llwybrau Rheidol/Ystwyth).
15.15. Cyrraedd Aberystwyth ac aros yma dros nos. Mae digon i'w weld a'i wneud yma - gan gynnwys Rheilffordd y Graig, sydd wedi bod yn dringo Craig-lais (Constitution Hill) ers 1896.
Gwasanaethau Bws Arfordirol
Mae arfordir gogledd Penfro yn cael ei wasanaethu'n dda â dau wasanaeth bws, y Poppit Rocket a'r Strumble Shuffle, sy'n gweithredu'n ddyddiol tan fis Medi, ac yna ddeuddydd yr wythnos yn y gaeaf.
visitpembrokeshire.com/darganfod-sir-benfro/teithio-o-gwmpas
Yn yr un modd â bysiau Sir Benfro, mae gwasanaeth Cardi Bach Ceredigion yn ddelfrydol i gerddwyr sy'n taclo rhannau o'r llwybr arfordir ac ymwelwyr sy'n chwilio am ffordd ddi-straen o deithio'n lleol. Mae’r gwasanaeth ar gael drwy gydol y flwyddyn ar hyd arfordir de Ceredigion.