Taith Sêr (a Spa) yn Eryri

Er bod Eryri yn adnabyddus am ei thirwedd arw a'i mannau gwyllt ac eang, mae hefyd yn gyrchfan foethus i'r rhai sy'n chwilio am y pethau mwy coeth mewn bywyd. Mae'r awdur teithio Huw Thomas yn mynd ar siwrnai i chwilio am sbas godidog a moethusrwydd, gyda bwyd bendigedig, yn rhai o'n gwestai gorau.

Huw and Caroline

O ran her, 'dydi cael cais i ymweld â'r gwestai sba mwyaf moethus yng ngogledd Cymru ddim yn ddrwg i gyd. Y tro hwn, fy nghydymaith yw fy ngwraig Caroline, arbenigwraig sba o'r iawn ryw sy'n gwybod y gwahaniaeth rhwng sgrwbiau halen ac amlapiadau gwymon (ac na fyddai byth yn maddau imi pe bawn i'n ei gadael gartref wrth fynd ar daith fel hon).

I'r coed

Ein hegwyl gyntaf ar ein taith o dde Cymru yw'r Waterloo Hotel & Lodge, ar lannau afon Conwy ar gyrion Betws-y-coed. Mae'r dref yn enwog fel porth i Barc Cenedlaethol Eryri ac fel canolbwynt bywiog ar gyfer anturiaethau awyr agored, ond mae'r Waterloo hefyd yn profi ei bod yn mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau pan ddaw'n fater o ddihangfa ymlaciol dan do. Arhoswn am ginio yng ngharferi dydd Sul y gwesty (darpariaeth hael sy'n haeddiannol boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd) a chymryd amser i gael golwg ar y cyfleusterau.  

Mae ystafelloedd y Waterloo yn helaeth a modern, pob un â wal nodwedd gyda golygfeydd naturiol trawiadol arnynt yn atseinio golygfeydd o'r goedwig a'r afon sydd i'w gweld trwy'r ffenestri. Mae'r bar yn lle croesawus hefyd, gyda digonedd o gadeiriau cyfforddus ac mae hyd yn oed llecyn penodol sy'n gyfeillgar i gŵn ar gyfer ymwelwyr pedair coes.  

I orffwys ac ymlacio, mae Stations Leisure sy'n cynnig yr unig bwll nofio mewn gwesty ym Metws-y-coed, ynghyd â jacuzzi, ystafell stêm a sawna. Mae yma hefyd gampfa llawn offer, pe bae chi'n teimlo'r angen i chwysu chwartiau cyn gwobrwyo eich hun gyda throchfa ymlaciol. Nid yw'n hamserlen yn caniatáu i ni aros dros nos y tro hwn, ond bwriadwn wneud iawn am hyn ar ein hymweliad nesaf. 

Swallow Falls © Hawlfraint y Goron / © Crown copyright (2024) Cymru Wales

Cofiwch hefyd 
Os ydych ym Metws-y-coed, mae’n rhaid ymweld â'r Rhaeadr Ewynnol. Wedi ei leoli ychydig filltiroedd o'r pentref, mae'r llecyn hardd hwn wedi bod yn denu ymwelwyr sy'n caru natur, ers dros 100 mlynedd. ⁠Pan fo llif yn afon Llugwy, mae'n dymchwel dros gyfres o raeadrau mewn dull dramatig, ewynnol. Gallwch ei weld o blatfform uwch ei ben sy'n hawdd cael ato, neu fynd i lawr grisiau serth i gael golygfa wlypach o lan yr afon.  

Pentref prydferth

Awn yn ein blaenau tua'r de-orllewin, trwy'r chwareli hagr a'r meysydd llechi o amgylch Blaenau Ffestiniog (sydd bellach yn rhan o un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO diweddaraf y DU) ac ymlaen tua'r arfordir. Ein cyrchfan yw'r pentref tylwyth teg - a gwesty unigryw - Portmeirion, sydd wedi ei leoli'n ddelfrydol ar lan y dŵr wrth aber afon Dwyryd.

Portmeirion and Dwyryd Estuary

Rydym wedi ymweld o'r blaen, ond erioed wedi aros yn y pentref dros nos. Mae'r daith ar gerbyd golff i'n hystafell trwy strydoedd di-geir y pentref yn cyfleu byd o enwogion soffistigedig yn syth, tra bod yr olwg gyntaf ar Upper Pilot - ein suite foethus yn y pentref - yn cadarnhau bod profiad arbennig yn ein disgwyl. Wedi ei leoli mewn llecyn uchel uwchben y pentref a'r aber, mae golygfeydd hynod drawiadol o bob cyfeiriad, wrth eistedd yn ôl ar y soffa gyfforddus yn y lolfa neu'n gorweddian ar y gwely anferth dan ganopi yn yr ystafell wely.

Fodd bynnag, rydym yn gwrthsefyll yr ysfa i ymlacio yn ein llety ac yn mynd allan i grwydro. ⁠Hyd yn oed os ydych wedi bod yma o'r blaen, nid yw Portmeirion byth yn eich siomi. Mae'n tystio i ddychymyg anuniongred ac ysbryd chwyldroadol ei sylfaenydd, Syr Clough Williams-Ellis, a dreuliodd ddegawdau yn trawsnewid y penrhyn coediog hwn i'r wlad hudol a welwn heddiw. Mae'n gybolfa hyfryd o ddylanwadau sy'n cyfuno cynllun wedi ei ddylanwadu gan yr Eidal gyda nodweddion pensaernïol hanesyddol a gasglwyd ar hyd a lled y wlad i greu set ffilm swreal sy'n cyfuno gyda ffurfiau naturiol dramatig y dirwedd.

Portmeirion

Treuliwn amser yn archwilio'r pentref a'r rhwydwaith o lwybrau sy'n ymdroelli ar hyd yr arfordir a thrwy goedwigoedd toreithiog sy'n gyforiog o goed ecsotig a rhododendron lliwgar. Dyma ffordd berffaith o fagu archwaeth am swper. 

Amser bwyd
Nid ein bod ni angen llawer o anogaeth. O'r amuse-bouche teisenni pysgod bychain wedi eu gorchuddio â haenau blasus o bicl i'r pwdin paflofa dail leim kafir a mango gyda hufen iâ gwellt lemon persawrus, mae pob cwrs yn blasu cystal ag y mae'n edrych. ⁠Mae'r lleoliad yn chwarae ei ran hefyd. Mae arddull ystafell fwyta'r gwesty yn ymdebygu i long bleser, gyda cholofnau pren sgleiniog a ffenestri hanner tro yn edrych dros y lan. Wrth iddi nosi ac i'r llanw godi ar yr aber, mae'r effaith yn gyflawn.

Wedi iddi dywyllu a phan fo pob ymwelydd wedi gadael, mae personoliaeth y pentref yn trawsnewid. Wedi ei oleuo gan olau arian y lloer, mae'r hud yn cynyddu. Mae tro ar ôl swper trwy'r strydoedd llawn cysgodion yn ddiwedd cofiadwy i ddiwrnod cyntaf ein taith.

Gwersi hanes
Ar ôl brecwast ardderchog (trïwch yr ŵy wedi ei botsio ac afocado ar surdoes), caf daith dywys o'r pentref dan arweiniad Meurig Rhys Jones, rheolwr safle Portmeirion. ⁠Mae'n ffynhonnell frwdfrydig o wybodaeth, gan ddarparu digonedd o ffeithiau diddorol wrth i ni deithio. Dangosa'r ystafell lle oedd rheolwr y Beatles, Brian Epstein yn arfer aros, hoff suite yr ymwelydd rheolaidd George Harrison, a'r ystafelloedd lle ysgrifennodd Noël Coward⁠⁠ Blythe Spirit yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Portmeirion Poached Eggs and Avacado on Sordough

Mae Meurig hefyd yn tynnu sylw at rai o'r technegau a ddefnyddiodd Williams-Ellis i wireddu ei weledigaeth, gan gynnwys triciau o ran persbectif sy'n gwneud i'r adeiladau bychain ymddangos yn llawer mwy, cribau toeau sy'n fwriadol gam i greu'r argraff o fod yn hŷn, a hyd yn oed adeiladau gyda ffenestri ffug, wedi eu paentio (sy'n hawdd eu colli ar yr edrychiad cyntaf). Dyma brofiad sy'n ein goleuo wrth blymio'n ddwfn i weledigaeth Clough Williams-Ellis a phrawf bod rhagor i'w ddysgu am y lle unigryw hwn bob amser.

Yr unig beth a ddifarwn wrth adael Portmeirion yw ein bod yn methu â chael amser i ymweld â Sba'r Fôr-forwyn yn y gwesty.  Llwyddwn i fodloni ein hunain gyda throchiad sydyn yn y pwll hirgrwn awyr agored (sy'n bleserus o gynnes), mewn lleoliad arall gwych ger y dŵr. Rydym hefyd yn pori drwy fwydlen atyniadol y sba i benderfynu pa driniaethau y byddwn yn mynd amdanynt y tro nesaf y byddwn yn ymweld (sba Puro gyda sgrwb gwymon codog ar gyfer Caroline a sba Lonyddol gyda cherrig cynnes i mi). 

Yr hen a'r newydd

Mae rhan nesaf ein taith yn mynd â ni tua'r gogledd i Gaernarfon a chinio yng Ngwesty’r Celt. Yn dyddio’n ôl i’r 18fed ganrif, mae’n hen adeilad mawreddog gyda hanes trawiadol (arhosodd y ddarpar Frenhines Fictoria yma yn 1832). ⁠Ond nid yw'n lle sy'n gorffwys ar ei rwyfau. Mae gwaith adnewyddu uchelgeisiol wedi dod â'r gwesty ar ei ben i'r 21ain ganrif. Mae'n weithred o gydbwyso gofalus sydd wedi cadw llawer o nodweddion gwreiddiol yr adeilad hanesyddol wrth gyflwyno lliwiau ac arddulliau ategol (a chyfoes).

Mae mannau cyhoeddus Gwesty'r Celt yn drawiadol ar unwaith – gan gynnwys atriwm anferth gyda siandelïer modern trawiadol a lolfeydd clyd ar ffurf llyfrgell wedi'u llenwi â llyfrau a hen deipiaduron. ⁠⁠Rydym yn dringo'r grisiau pren mawreddog sy'n codi uwchben desg y dderbynfa ar gyfer taith o amgylch rhai o ystafelloedd eang y gwesty. Maen nhw'n edrych fel y dylent hefyd – wedi harlliwio â glas claear ac wedi eu trochi mewn golau naturiol o ffenestri pictiwr uchel. 

Celtic Royal Hotel  

Yn ôl ar y llawr gwaelod, cawn olwg ar gyfleusterau hamdden Gwesty'r Celt. Mae'r pwll nofio 52 troedfedd/16m pefriog, gyda sba swigod gyfagos, yn edrych yn gynnes a chroesawus. Mae yma hefyd sawna boeth a stemllyd, ynghyd â champfa lawn offer.  

Rydym yn setlo i lawr am ginio ym mar hamddenol Y Copa (mae'r frechdan clwb ciabatta yn werth ei chael). Mae'n ddelfrydol ar gyfer cinio di-ffwdan yn ystod y dydd, ond mae Gwesty'r Celt hefyd yn cynnig te prynhawn moethus a bwydlen gourmet à la carte gyda'r nos ym Mwyty'r Castell os ydych yn teimlo fel cael rhywbeth mwy ffansi.

Celtic Royal Hotel Club Sandwich

Cofiwch hefyd
Gweler y llety hynafol oedd yn addas ar gyfer brenin yng Nghastell Caernarfon, caer Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, sy'n ymrithio dros y dref. Cynyddwch nifer eich camau drwy ddringo tŵr uchaf y castell, Tŵr yr Eryr, i weld golygfeydd eang ar draws Eryri a thros y Fenai i Fôn, neu fod ychydig yn fwy hamddenol drwy fynd yn y lifft i'r llwyfan gwylio newydd uwchben Porth y Brenin.

Ar lan y dŵr

Dim ond hop, cam a naid sydd ar hyd yr arfordir i westy'r Quay Hotel and Spa yn Neganwy, ein cyrchfan olaf am y dydd. Wedi'i lleoli rhwng marina Deganwy, sy'n llawn i'r ymylon o gychod, a dyfroedd afon Conwy, mae bron yn ymdebygu i long bleser fawr, argraff a atgyfnerthir gan y gweithiau celf ar thema forwrol ar furiau ei chyntedd llachar, llawn golau.  

Cawn fynediad i'n suite trwy gwrt zen y Quay, lle tawel gyda ffynhonnau tinciog a phalmwydd sy'n siglo. Fyddai disgrifio'r ystafelloedd fel rhai â digonedd o le ddim yn gwneud cyfiawnder â nhw. Mae'r gwely yn fwy na rhai ystafelloedd gwesty y bûm i ynddynt, tra byddai'r lolfa llawn cadeiriau esmwyth yn debygol o allu cynnal gêm bêl-droed pump-bob-ochr. Mae'r drysau patio yn gwella'r ymdeimlad o ofod sy'n agor i olygfeydd dyfriog bendigedig ar draws yr afon i Gastell Conwy a'r marina.

Sbas a bwyd môr
Roedd hen edrych ymlaen at gyfleusterau sba a llesiant gwesty'r Quay, felly dyma gydio yn ein rôbiau a mynd draw i ganfod llu o ddewisiadau sba maldodus. Yr her fwyaf ydi gwybod ble i ddechrau. Rydym yn dewis y llecyn gwresol persawrus, ei furiau wedi eu gorchuddio â brics halen pinc o'r Himalaya a'u trwytho ag arogleuon aromatherapi llonyddol.

The Spa at the Quay

Rydym hefyd yn mwynhau ein profiad cyntaf o sawna is-goch (da ar gyfer ystwytho cyhyrau poenus). Mae ei wres ychydig yn llai dwys na'r sawna traddodiadol y drws nesaf, er ein bod yn treulio ychydig funudau eirias yno hefyd. Mae'r ystafell stêm yn cwblhau pethau, cyn i ni orffen gyda nofio a throchiad adfywiol yn y pwll a'i faddon tylino byrlymus.

Gall gorffwys ac ymlacio eich gwneud yn rhyfeddol o lwglyd. Yn ffodus, mae gennym bryd ym mwyty Ebb and Flow y gwesty i edrych ymlaen ato. Mae'n ystafell hamddenol sydd wedi'i goleuo'n gynnes, ac wedi'i haddurno â rhaffau rigio mewn parhad cynnil o thema forwrol y Quay.

Crab tian accompanied by fresh flavours of avocado, lemon and watermelon

Mae digonedd o fwyd môr ar y fwydlen hefyd. Mae Caroline yn dewis tian cranc gyda blasau ffres afocado, lemon a melon dŵr, tra fy mod innau'n dewis teisen bysgod berlysiau wedi ei chrimpio gyda saws tartar poeth, llawn caprys. Mae prif gwrs o ffiled cig eidion wedi'i rhostio mewn padell gyda madarch gwyllt garlleg yn profi bod y Quay yr un mor fedrus gyda chynhwysion sy'n tarddu o'r tir. Rydym ni'n gorffen gyda hufen iâ (gan y gwneuthurwr arobryn o Gonwy, Parisella's) wedi ei sgeintio gyda darnau meringue creisionllyd, cyn noswylio i'n hystafell balasaidd am noson dda o gwsg.

Creu tonnau 
Mae ein profiad o'r sba yng ngwesty'r Quay wedi ein gadael gydag archwaeth am ragor. Yn y bore, gyrrwn i ffwrdd o'r arfordir, gan ddilyn y ffordd droellog ar hyd dyffryn iraidd Conwy i bentref bach Dolgarrog. Rydym yma i ymweld â'r Wave Garden Spa a'r Hilton Garden Hotel, ychwanegiadau cymharol ddiweddar i'r rhan hon o Eryri.

Wave Garden

I ddechrau, awn draw am ein sesiwn sba dwy awr yn y Wave Garden. Wedi'n gwisgo mewn rôbiau fflwfflyd a gwydrau am ddim o Buck’s Fizz yn ein dwylo, rydym ni'n barod i brofi ei phleserau. Y tu mewn deuwn o hyd i bwll diderfyn cynnes gyda chwistrellau tylino adfywiol, sbas troed byrlymus, sawna halen yr Himalaya ac ystafell stêm laith. Mae'r sawna yn arbennig o drawiadol, diolch i'w wal halen lliw pinc a'r ffenestri mawr sy'n rhoi golygfeydd dros gefn gwlad gerllaw.  

Mae'r Wave Garden wir yn rhagori pan awn allan. Mae'r llecyn dec mawr yn gartref i sawna ar ffurf casgen bren, ystafell ymlacio awyrog gyda chadeiriau haul meddal a hyd yn oed cawod her bwced rhew i ymwelwyr mwy gwydn ('doedd yr un o'r ddau ohonom ni yn ddigon dewr i roi cynnig arni). Ein hoff nodwedd yw'r pwll sba diderfyn. Wrth i ni fwynhau ein diodydd o dan heulwen lachar y gwanwyn gyda barcutiaid coch yn troelli yn yr awyr uwch ein pennau, mae'n anodd dychmygu lle mwy ymlaciol i fod ynddo. 

Wave Garden  

Y cyfuniad o'r tu mewn a'r tu allan sy'n gwneud i'r Wave Garden deimlo'n arbennig iawn. Mae Caroline yn dweud ei fod yn ymdebygu i'w phrofiadau yn y Sba Thermae enwog yng Nghaerfaddon. Rwy'n ymwybodol mai dyna un o'i ffefrynnau o ran cyrchfannau sba, felly mae'n ganmoliaeth fawr yn wir.

Atyniad newydd sbon

Wedi'n hadfywio, rydym yn bachu tamaid i'w fwyta ym Mar a Gril Zephyr gwesty'r Hilton Garden, gofod llachar a bywiog gyda chyffyrddiad o deimlad bar traeth. Mae yna fwydlen helaeth o dameidiau ysgafn a phrydau mwy sylweddol drwy'r prynhawn a gyda'r nos. Awgrym: mae'r salad madarch gwyllt ac eog wedi'i grilio yn berffaith ar amser cinio. 

Hilton Garden’s Zephyr’s Bar and Grill

Wedi i ni fwyta, mae Isabel sydd wrth y brif ddesg yn mynd â mi am daith sydyn o rai o ystafelloedd yr Hilton. Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl gan westy sydd ond wedi bod yn agored ers ychydig flynyddoedd, maen nhw'n ddi-fai ac wedi'u dylunio'n chwaethus (mae'r oergell fach Smeg ffynci ym mhob ystafell yn gyffyrddiad da).  

Mae'r ystafelloedd suite yn arbennig o drawiadol. Wedi eu lleoli yn adain ddwyreiniol adeilad y gwesty onglog, mae'r diangfeydd helaeth hyn yn cynnwys cyffyrddiadau unigryw fel bath enfawr yn sefyll ar ei ben ei hun yn yr ystafell wely, wedi'i leoli'n berffaith i fwynhau'r golygfeydd o'r ffenestri neu wylio'r teledu sgrin lydan (gwrth-ddŵr).

Môr a mynydd 

Mae rhan olaf ein taith yn mynd â ni yn ôl i'r arfordir i Aberdyfi a gwesty Trefeddian. ⁠Saif y gwesty mewn llecyn uchel rhwng bryn a môr, yn edrych dros ehangder garw o dwyni tywod tonnog a dyfroedd Bae Ceredigion.  

Rydym yn derbyn croeso cynnes wrth gyrraedd ac yn esgyn yn y lifft i un o’r ystafelloedd suite moethus eang ar bedwerydd llawr y gwesty. ⁠Wedi'i orchuddio mewn defnyddiau mewn arlliwiau amrywiol o las morwrol a gwyn, gyda dodrefn 'shabby-chic' lliw broc môr, mae'n teimlo fel estyniad o'r morluniau godidog y gallwn eu gweld o'n ffenestr.

Golygfeydd gwych
Allwch chi ddim sôn am westy Trefeddian heb grybwyll y golygfeydd. P'un a ydych chi'n eistedd yn un o'r lolfeydd, ar gadair freichiau rattan ar y lawntiau taclus neu yn y lolfa arsylwi llawn haul ar y llawr uchaf, fedrwch chi ddim dianc rhag y golygfeydd trawiadol. Mae pawb rydym ni'n eu cyfarfod yn dweud ein bod wedi dewis diwrnod da i ymweld. Gan syllu ar y golygfeydd yn heulwen gynnes y gwanwyn o dan awyr las ddi-gwmwl, mae'n anodd anghytuno. 

Trefeddian Hotel Views

Yr un yw’r stori yng nghanolfan hamdden a llesiant Trefeddian, sydd wedi'i lleoli yn y coed ychydig islaw prif adeilad y gwesty. Mae'r pwll nofio a'r baddon sba hefyd yn elwa o olygfeydd godidog o'r môr, ac mae teras gyda chadeiriau gorwedd hamddenol ar gyfer torheulo'n gysglyd. Hyd yn oed ar ôl trochi yn y sba amser cinio, allwn ni ddim gwrthsefyll ymdrochiad cyflym yn y pwll. Dyma’r gorau o ddau fyd - nofio heulog glan môr heb holl ddŵr oer y môr.

Cofiwch hefyd
Os ydych chi'n frwdfrydig am golff, mae'n rhaid i chi fanteisio ar y cyfle i chwarae rownd yng Nghlwb Golff Aberdyfi, sy'n ymdroelli drwy'r twyni yn union o flaen Trefeddian. Mae'r cwrs golff glan môr hanesyddol (a gynlluniwyd gan y pensaer cyrsiau golff chwedlonol James Braid) yn ymddangos yn rheolaidd ar restrau o glybiau gorau'r DU.

Gwesty clasurol 
Efallai mai'r ffaith ei fod yn eiddo i'r un teulu ac yn cael ei redeg ganddynt ers 1907 sydd i gyfrif, ond heb amheuaeth mae Trefeddian yn westy sydd â theimlad o'r hen oes. Mae cyfres o lolfeydd cain ar hyd tu blaen yr adeilad – gyda chadeiriau breichiau cyfforddus a dodrefn hynafol wedi eu gosod ynddynt – a allai ddod yn syth o nofel gan Agatha Christie. Lle bynnag yr edrychwch, mae atgofion o hanes hir y gwesty, o'r hen luniau a dogfennau sy'n crogi ar y waliau i'r hen gyllyll arian yn y bwyty wedi eu hengrafu ag enw Trefeddian.

Nid bod y lle'n teimlo'n sych nac ynghlwm yn y gorffennol o gwbl. Mae addurnwaith cyfoes a dewisiadau dylunio modern yn ategu'r elfennau mwy traddodiadol i roi awyrgylch i Drefeddian sy'n teimlo'n wirioneddol oesol.

Trefeddian Hotel Room

Gyda'r nos, awn i lawr am swper yn yr ystafell fwyta fawreddog gyda'i siandelïer, i flasu bwydlen amheuthun table d'hôte pum cwrs Trefeddian. Gan newid yn ddyddiol i ymgorffori'r cynhwysion mwyaf ffres sydd ar gael i'r gegin, mae'r dewis o bysgod, cig ac opsiynau llysieuol bron yn ysgubol. Ar ôl gwneud penderfyniadau anodd, rydym yn mwynhau cyfres ardderchog o seigiau wedi eu paratoi'n gywrain, a weinir gan staff cyfeillgar a gwasanaethgar (ein huchafbwyntiau yw'r lwyn porc wedi'i lapio mewn pancetta sy'n tynnu dŵr o'r dannedd a draenog môr hynod ffres a weinir ar nwdls Thai cyffrous).

Dim ond rhan o'r profiad yw'r bwyd. Wrth i ni fwyta, rydym ni'n mwynhau sioe o olau naturiol ysblennydd wrth i'r haul oren llachar suddo'n araf islaw'r gorwel. Mae'n ddiweddglo gwych i dri diwrnod maldodus, llawn i'r ymylon, yn mwynhau'r gorau o Eryri. Gawn ni wneud hyn i gyd eto os gwelwch yn dda?

Golygfa o westy Trefeddian yn y nôs