Mae’r daith yma’n cychwyn a gorffen yng Nghraflwyn, ond mae’n rhoi cyfle i chi weld dyffryn Nant Gwynant yn ehangach. Mwynhewch y gweundir a’r ffridd wyllt ac unig dan yr Aran, llethrau isaf copa uchaf Cymru, yr Wyddfa, rhaeadrau rhyfeddol Afon Cwm Llan a’r Llyn Dinas trawiadol. Ar hyd y ffordd byddwch yn dysgu am y dirwedd ddiddorol yma a sut yr ydym yn ei diogelu.
Pellter: 10.4 km / 6.5 miles
Amcan asmer: 3-4 hours
Map Arolwg Ordnans: OS Explorer PL17
Parcio: Craflwyn, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (https://what3words.com/adferol.tyfais.gwylwyr)