Taith Gerdded Dinas Oleu, Abermaw

walking

Mae'r daith yn mynd â chi o ganol tref Abermaw drwy'r strydoedd cul troellog serth o'r hen dref ac i fyny i ben y bryn sydd wedi ei orchuddio gan eithin, a elwir yn Dinas Oleu (Citadel of Light). Wrth i chi wneud eich ffordd i fyny, ceir golygfeydd dramatig dros Aber Mawddach a Bae Ceredigion - sy'n ymestyn tuag at Benrhyn Llyn. Mae'r daith gerdded yn gyfoethog mewn hanes a byddwch yn archwilio'r darn cyntaf o dir a roddwyd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1895 gan Mrs Fanny Talbot

Pellter: 2.0 km / 1.2 milltir
Amcan amser: 2 awr
Map Arolwg Ordnance: Outdoor Leisure (OL 18)
Parcio: Gorsaf drên Abermaw