Tua dau gan mlynedd yn ôl, ardal o bentrefi bach a ffermydd gwasgaredig oedd Blaenau Ffestiniog. Gyda thyfiant y diwydiant llechi, cynyddodd poblogaeth plwyf Ffestiniog yn ystod y 19eg Ganrif o lai na 800 i dros 10,000. Yn wahanol i chwareli dyffrynnoedd Arfon, roedd bron yr holl weithfeydd yr ardal o dan ddaear. Arferai’r chwarelwyr a’u teuluoedd ychwanegu at eu cyflogau drwy ofalu am dyddyn, ond gwaith caled oedd ceisio amaethu’r tir gwael anffrwythlon ar lethrau’r mynyddoedd. Mae’r tyddynnod gyda’u caeau bychan taclus wedi eu hamgylchynu gan waliau o gerrig sych a godwyd mor gelfydd, yn nodwedd gyffredin o’r ardaloedd llechi.
Ceir naw dewis.
Ardal Cwm Morthin
Pellter: 2.6 km / 1.6 milltir
Amcan amser: 1 awr
Map Arolwg Ordnans: OS 0418
Ardal Llyn Tanygrisiau
Pellter: 4.8 km / 3 milltir
Amcan amser: 1 awr
Map Arolwg Ordnans: OS 0418
Ardal Moel Ystadau
Pellter: 7.4 km / 4.6 milltir
Amcan amser: 2 awr
Map Arolwg Ordnans: OS 0418
Ardal Coed Pengwern
Pellter: 6.0 km / 3.7 milltir
Amcan amser: 1 awr
Map Arolwg Ordnans: OS 0418
Ardal Cwm Bowydd
Pellter: 4.6 km / 2.9 milltir
Amcan amser: 1 awr
Map Arolwg Ordnans: OS 0418
Maen Offeren
Pellter: 2.0 km / 1.3 milltir
Amcan amser: 1 awr
Map Arolwg Ordnans: OS 0418
Ardal Congl Wal
Pellter: 2.9 km / 1.8 milltir
Amcan amser: 1 awrs
Map Arolwg Ordnans: OS 0418
Ardal Caecanol Mawr
Pellter: 2.9 km / 1.8 milltir
Amcan amser: 1 awr
Map Arolwg Ordnans: OS 0418
Ardal Llan Ffestiniog
Pellter: 4.3 km / 2.7 milltir
Amcan amser: 1 awr
Map Arolwg Ordnans: OS 0418
