Tafarn yr Eagles
Mae'r Eagles yn adeilad cerrig traddodiadol ac yn ôl pob sôn yn hen dŷ fferm sydd cyn hyned ag eglwys y plwyf. Mae'r Eagles yn dŷ tafarn cyfforddus sydd gyda digon o le i chi ymlacio. Mae dewis helaeth o gwrw ynghyd â gwinoedd a gwirodydd o safon uchel ar gael yn y bar. Mae’n dafarn traddodiadol Cymreig gyda thrawstiau isel, lle tân agored, gardd gwrw ac ystafell fwyta sy’n ymfalchïo mewn bwydlen y byddai'n destun eiddigedd mewn llawer i fwyty!