Swyn y Sêr
Mae’r sêr wedi ein cyfareddu ers cyn cof, ac mae goleuadau’r wybren wedi ysbrydoli gweithiau o gelf, llenyddiaeth a cherddoriaeth rif y gwlith ar hyd y cenedlaethau. Ond rhaid cofio mai’r hyn sy’n ein caniatáu i fwynhau mawredd y sêr, yw’r awyr dywyll o’u cwmpas.
Yn 2015 fe nodwyd Eryri yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol, gan ei gwneud y 10fed ardal yn y byd i dderbyn y statws. Mae hyn yn golygu bod Eryri ymysg un o’r llefydd sydd â’r lleiaf o lygredd golau ar y ddaear. Mae Ynys Enlli, oddi ar arfordir Pen Llŷn hefyd wedi derbyn statws noddfa awyr dywyll, y gyntaf yn Ewrop gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol.
Rhwng Eryri ac Enlli, a statws awyr dywyll Arfordir Penfro a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cymru yw’r wlad sydd â’r ganran uchaf o awyr dywyll warchodedig yn y byd i gyd. Beth yn union sydd i’w weld wrth syllu tua’r nen felly? Mae’n anodd amgyffred, ond gyda’ch llygad yn unig gallwch weld galaeth sydd ddwy filiwn a hanner o flynyddoedd goleuni i ffwrdd, a gyda chymorth ’sbienddrych gallwch weld craterau ar wyneb y lleuad! Gyda digon o amynedd ac amser fe allwch weld sêr gwib hudolus, wrth i ronynnau o lwch sy’n disgyn drwy atmosffer y ddaear edrych fel stribedi o olau ar draws yr awyr. Misoedd Awst, Hydref a Rhagfyr yw’r amser gorau i’w gweld yma yng Nghymru.
Wyddoch chi bod modd gweld hyd at bump o’r planedau gyda’r llygad noeth? Planedau Gwener a Mawrth yw’r rhai amlycaf i edrych amdanynt; Gwener â’i golau llachar wedi’r machlud a chyn y wawr, a phlaned Mawrth â’i harlliw goch. O dro i dro daw cyfle euraidd i weld comed yn gwibio trwy’r gofod, ac mae Llewyrch yr Arth (neu Oleuni’r Gogledd / Aurora Borealis) wedi denu miloedd ohonom allan eleni gyda’i lliwiau rhyfeddol yn baent hyd awyr y nos.
Wrth gwrs, un o’r pethau sydd yn gwneud i ddyn godi ei ben tua’r nen ar hyd yr oesau yw’r cytserau. Roedd y cytserau’n gwmni i’r hen Gymry wrth iddynt drin y tir neu deithio liw nos, ac yn sgil hynny mae nifer o hen enwau Cymraeg ar y cytserau. Caiff y Bootes ei adnabod fel yr Hu Gadarn yng Nghymru, yr un ddechreuodd ffermio’r tir yma, yn ôl y chwedl. Yma yng Nghymru caiff Yr Aradr (The Plough neu The Big Dipper) hefyd ei galw yn Sêr y Llong, gan ei bod yn bwynt cyson oedd yn helpu morwyr hwylio’r moroedd cyn datblygiad technoleg. Gallwch ddysgu llawer mwy am yr hyn sydd i’w weld yn yr awyr dywyll ar wefan Profi’r Tywyllwch Cymru, ac hefyd yn y llyfr arbennig All Through The Night, gan y Swyddog Awyr Dywyll lleol, Dani Robertson.
Mae’n wybyddus erbyn hyn mor llesol yw edrych allan ar sêr y nos. Mae treulio amser o dan awyr dywyll yn gwella ein hiechyd a’n lles, heb sôn am roi cyd destun o’n maint ar y blaned. Ond mae eraill yn cael budd o’r tywyllwch hefyd. Wyddoch chi bod 60% o blanhigion a bywyd gwyllt yn dibynnu ar dywyllwch i fyw? Mae ystlumod, tylluanod a nifer o adar eraill yn ddibynnol ar batrwm dydd a nos er mwyn goroesi. Mae ystlumod yn hela ac yn bwyta yn y nos, a thylluanod sydd â llygaid sy’n caniatáu iddynt weld a hela ysglyfaeth mewn tywyllwch llethol. Mae llawer o adar hefyd yn defnyddio’r haul, y lleuad a’r sêr i fynd o le i le.
Os ydych chi wedi eich hysbrydoli i ddysgu mwy a phrofi awyrgylch yr awyr dywyll drosoch eich hun, mae llawer o weithgareddau y gallwch chi roi cynnig arnynt liw nos. O wersylla dan y sêr a gwylio’r haul yn machlud a’r wawr yn torri, i wylio moch daear a mynd ar deithiau cerdded gyda’r hwyr; mae’n syndod faint o weithgareddau sydd! Mae’n werth dilyn Prosiect Nos ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn gweld pa weithgareddau sydd ar y gweill, nifer ohonynt dan arweiniad staff profiadol. Mae Wythnos Awyr Dywyll Cymru a gaiff ei chynnal bob mis Chwefror wastad yn gyfle da i fynd amdani, gyda nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru i fynd â chriwiau allan i fwynhau yn y nos.
Mae ymuno â digwyddiad yn ffordd dda o roi cynnig arni i ddechrau, gan bod sawl peth i gadw mewn cof cyn cychwyn allan i wylio’r sêr. Mae gofyn cynllunio eich llwybr o flaen llaw, gwisgo dillad addas a mynd a map a chwmpas gyda chi i enwi dim ond rhai. Tarwch olwg ar gyngor trylwyr Profi’r Tywyllwch Cymru wrth drefnu eich taith. Ac yn sicr does dim prinder llefydd i fynd i wylio’r sêr yma yn Eryri. Mae Llyn y Dywarchen uwchlaw Drws y Coed yn Nyffryn Nantlle yn le poblogaidd, ac mae maes parcio gerllaw. Felly hefyd Llyn Geirionnydd yng Nghoedwig Gwydir uwchben Betws y Coed, ble mae maes parcio cyhoeddus, toiledau a meinciau picnic. Dyma ragor o syniadau am leoliadau da a diogel i wylio’r sêr yn Eryri.
Os ydych chi’n awyddus i dynnu lluniau o awyr y nos, mae’n haws nac erioed gwneud hynny heddiw gyda dim ond eich ffôn symudol neu gamera digidol, a chymorth app. Gwnewch amser i ddarllen rhagor o gymorth arbenigol ar astroffotograffiaeth cyn cychwyn allan, er mwyn dal rhyfeddod y wybren a’i rannu ac eraill.
Er mwyn i ni barhau i gael mwynhau llewyrch y sêr, gallwn ni gyd chwarae ein rhan i warchod yr awyr dywyll. Mae nifer o bethau bach y gallwn wneud gan gynnwys dim ond defnyddio goleuadau pan fo angen a cheisio pwyntio goleuadau y tu allan i lawr tua’r ddaear er mwyn lleihau’r effaith y maent yn gael ar fywyd gwyllt lleol.
Felly paratowch yn drylwyr, paciwch eich bag, lapiwch yn gynnes, a mentrwch allan pan fydd pawb arall yn eu gwlâu i ddarganfod harddwch a rhyfeddod Eryri dan flanced o sêr.