Siopau
Byw Bywyd - Living Life
Offer Symudedd ac Anabledd
Os ydych yn ymweld â’r ardal byddwn yn falch i helpu.
Crug Farm Plants
Canolfan Arddio/Meithrinfa
Mae llawer o'r planhigion a welwch yn newydd - ni welir eu bod yn cael eu tyfu o'r blaen. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n eu hadnabod gan fod help wrth law.
Cyfarchion
Crefftau/Anrhegion Nwyddau Lleol
Mae Cyfarchion, yng Nghaernarfon, yn cynhyrchu anrhegion hyfryd yn Gymraeg a Saesneg wedi'u gwneud â llaw . Mae Llinos wedi datblygu arddull unigryw a modern o ddylunio, pob un wedi'i wneud â llaw gan ddefnyddio Clai Polymer a Phapur Merwydden.
Gray-Thomas
Crefftau/Anrhegion
Yn union ar draws y ffordd i Gastell Caernarfon, mae croeso cynnes Cymreig yn eich disgwyl yn Gray-Thomas. Maent yn gwerthu dewis enfawr o anrhegion, dillad a chofroddion Cymreig, llawer ohonynt yn cael eu cyflenwi gan gynhyrchwyr lleol.
Gwinllan | Perllan Pant Du
Gwinllanoedd a Bragdai Cynnyrch Lleol Nwyddau Lleol Masnachwyr Gwin
Mae Gwinllan a Pherllan Pant Du wedi ei lleoli ar lethrau Dyffryn Nantlle, Eryri. Mae'r busnes teuluol yn cynnwys Tŷ Bwyta a Siop fechan ar y safle. Mae cynnyrch Pant Du yn cynnwys Gwin, Seidr, Sudd Afal, Dŵr Ffynnon, a Mêl.
Karen Jones Arlunydd
Oriel Gelf
Bywyd yn Eryri wedi ei beintio gydag olew. Gellir gweld gwaith Karen ar y wê, yn yr oriel newydd ym Metws-y-Coed, Artworks neu trwy drefniant yn ei stiwdio yn Waunfawr.