Seiclo Ffordd Brailsford

Wedi ei lansio yn 2016, Ffordd Brailsford yw teyrnged y pennaeth seiclo Syr Dave Brailsford i'r mynyddoedd a'i ffurfiodd.  Cyn arwain Tîm Seiclo Prydain i sawl medal aur Olympaidd a goruchwylio nifer o lwyddiannau Tour de France gyda Team Sky, magwyd Syr Dave, sy'n siaradwr Cymraeg, ym mhentref Deiniolen ger Llanberis, gan hogi ei allu reidio ar ddringfeydd heriol a disgynfeydd serth Eryri. 

‘Wrth dyfu i fyny, y llwybrau hyn oedd y rhai roeddwn i’n hoffi eu reidio,’ meddai Syr Dave. ‘Y ffordd, y dringfeydd, y cyfuniad hardd o'r môr a’r mynyddoedd. Y rhain wnaeth fy ysbrydoli.’

Mae Ffordd Brailsford yn cynnwys dwy daith - un yn mesur 50 milltir/80km, a chylched hwy 75 milltir/120km ar gyfer seiclwyr mwy ymroddedig. Pa bynnag un a ddewiswch, byddwch yn mwynhau beicio anhygoel trwy rai o dirweddau mwyaf trawiadol Eryri. Mae cymaint o amrywiaeth ar lwybrau sy'n newid o'r naill filltir i'r llall - popeth o reidio hamddenol wrth ochr llynnoedd i ddringfeydd llawn trwy'r mynyddoedd. Gellir mwynhau'r Ffordd trwy gydol y flwyddyn a mynd i'r afael â hi yn ei chyfanrwydd neu mewn darnau byrrach, gan ei gwneud yn ddeniadol i reidwyr o bob gallu. Yma, rydym wedi dewis ychydig o rannau mwyaf cofiadwy y Ffordd i'ch annog i fynd ati i reidio.

Gellir canfod digonedd o fannau parcio ar, neu'n agos at, ddechrau a diwedd pob rhan o'r Ffordd. Os byddai'n well gennych ddefnyddio cludiant cyhoeddus, ewch i  Traveline Cymru i ganfod tocynnau ac amserlenni ar gyfer gwasanaethau bws a thrên lleol.

Bwlch Llanberis 
Mae un o ddringfeydd mwyaf eiconig Ffordd Brailsford, y daith trwy Fwlch Llanberis a thros Ben-y-pas yn hanfodol i unrhyw seiclwr ymroddedig sy'n mynd i'r afael ag Eryri. Y man cychwyn yw Gwesty Pen-y-gwryd, gyda dringfa fer cyn y ddisgynfa trwy'r bwlch i Lanberis. Efallai y bydd reidwyr sy'n chwilio am fwy o her eisiau reidio'r llwybr i'r cyfeiriad arall, gan ddringo ar hyd y bwlch i gyd o Lanberis.  

Mae Gwesty Pen-y-gwryd yn enwog am ei gysylltiad â Syr Edmund Hillary, a arhosodd yma gyda'i dîm wrth iddynt hyfforddi yn Eryri i ddringo i gopa Everest am y tro cyntaf ym 1953. O'r gwesty, mae ffordd yr A4086 yn nadreddu i fyny rhwng waliau isel o gerrig sych i Ben-y-pas, gyda mawredd yr Wyddfa'n ymddangos wrth eich ysgwydd. Yn 1,178 troedfedd/359m uwchben lefel y môr, dyma un o'r mannau uchaf ar y Ffordd a llecyn poblogaidd i gerddwyr sy'n cychwyn ar eu taith i fyny i gopa'r Wyddfa. 

Ar ôl y ddringfa, mwynhewch y ddisgynfa hir trwy Fwlch Llanberis a'i glogfeini (ond peidiwch â gadael i'r dringwyr creigiau dynnu eich sylw) ac i mewn i Lanberis (gwyliwch am dŵr Castell Dolbadarn wrth i chi gyrraedd y pentref).

Llanberis Pass


Caernarfon/Y Fenai
Rhan arfordirol o'r Ffordd yw hon i raddau helaeth, ac er nad oes dringfeydd sy'n chwalu'r ysgyfaint a disgynfeydd sy'n peri i guriad calon gyflymu'n arw, mae'n gwneud iawn am hynny gyda'i golygfeydd godidog o'r glannau.  

Gan gychwyn gyda dolen o amgylch Castell Caernarfon, cewch gyfle i edmygu'r bensaernïaeth ganoloesol ryfeddol. Wedi'i adeiladu gan Edward I i ddarostwng y Cymry brodorol afreolus, mae'n gadarnle milwrol nerthol ac yn ddatganiad gweladwy o rym. Yn un o bedair caer yng ngogledd Cymru sydd â statws Safle Treftadaeth y Byd (ynghyd â Biwmares, Conwy a Harlech), mae Castell enfawr Caernarfon yr un mor fawreddog heddiw ag yr oedd pan gafodd ei godi dros 700 mlynedd yn ôl. 

O Gaernarfon, mae'r Llwybr yn mynd gyda glannau'r Fenai ar ffordd leol dawel ychydig fetrau o'r lan. Bydd y graddiant gwastad yn rhoi digon o amser i chi fwynhau golygfeydd ar draws y dŵr i Ynys Môn ar yr ochr arall, ond bydd angen i chi weithio'n galed o hyd os yw'r prifwynt o'r môr yn chwythu.

Dyffryn Nantlle
Er ei fod yn lle tawel y dyddiau hyn, roedd Dyffryn Nantlle ar un adeg yn ganolfan brysur yn niwydiant llechi gogledd Cymru. 

Wrth i chi ddilyn y B4418 trwy'r dyffryn ar y rhan hon o'r Ffordd, fe welwch ddigon i'ch atgoffa o'i orffennol diwydiannol. Mae tomenni gwastraff enfawr o gerrig a rwbel, sy'n dod yn rhan o'r dirwedd yn raddol wrth iddynt gael eu gorchuddio gan lystyfiant, ar hyd y ffordd wrth ochr olion adeiladau chwarel a mwyngloddiau. 

Ym mhentref Nantlle, mae'r llwybr yn troelli o amgylch glannau Llyn Nantlle Uchaf, ac yn dringo i fyny rhwng copaon ag iddynt ochrau serth i'r dramatig Lyn y Dywarchen, pen uchaf y ddringfa ar 781 troedfedd/238m, cyn disgyn i bentref Rhyd-ddu wrth droed yr Wyddfa.

Drws y Coed, Dyffryn Nantlle Valley


Bwlch y Gorddinan
Wedi'i agor ym 1854 yn ystod Rhyfel y Crimea (sy'n esbonio'r enw Saesneg), Bwlch y Gorddinan ar 1,263 troedfedd/385m rhwng Blaenau Ffestiniog a Dolwyddelan yw'r pwynt uchaf ar Ffordd Brailsford. 

Mae atgofion am y diwydiant llechi a fu unwaith yn tra-arglwyddiaethu ar yr ardal hon o Gymru (sydd bellach yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO diweddaraf y DU) yn arbennig o drawiadol wrth i chi seiclo trwy Flaenau Ffestiniog. Ar ôl cynhyrchu niferoedd enfawr o lechi, mae llawer o'r chwareli lleol wedi cael eu hailbwrpasu fel meysydd chwarae i weithgareddau fel canolbwynt gwifren wib Zip World a chanolfan feicio i lawr allt Antur Stiniog (sy'n werth ymweld â hi os am newid o reidio ar y ffordd).

Mae dringfa serth yn mynd â chi allan o Flaenau Ffestiniog a thros y bwlch ar ffordd gyda bryniau creigiog o'i chwmpas, wedi eu gorchuddio â chlogfeini a gwastraff llechi. O'r copa, mae disgynfa hir gyda golygfeydd i'r pellter ar draws y mynyddoedd yn eich cludo i lawr tuag at Ddolwyddelan. Cofiwch edrych am Gastell Dolwyddelan (un o nifer o gaerau a adeiladwyd gan Dywysogion brodorol Gwynedd) yn sefyll ar lecyn uchel uwchben y ffordd.

Betws-y-Coed/Capel Curig
Gyda’i awyrgylch cyrchfan wyliau Alpaidd a’i gyfoeth o weithgareddau awyr agored, cyfeirir yn aml at bentref mynyddig bywiog Betws-y-coed fel y ‘porth i Eryri’. Dyma ddechrau rhan o Ffordd Brailsford sy'n cynnwys dyffrynnoedd coediog, rhaeadrau, llynnoedd a golygfeydd trawiadol o Eryri. 

O Fetws-y-coed, byddwch yn reidio ar hyd ffordd enwog yr A5 gan ddilyn cwrs afon Llugwy. Wrth i chi grwydro, edrychwch am dirnodau fel Rhaeadr Ewynnol a Thŷ Hyll, bwthyn anarferol (sydd bellach yn ystafell de) a wnaed o ddarnau o gerrig di-siâp. 

Ar ôl dringo i fyny i bentref bach Capel Curig, byddwch yn gadael y coed ar eich ôl ac yn cyrraedd tirwedd uwch mwy panoramig. Gan ddilyn yr A4086, byddwch yn reidio heibio i Lynnau Mymbyr, lleoliad clasurol y tynnir ei lun yn aml, wedi'i osod yn erbyn Pedol yr Wyddfa, a enwir ar ôl y cylch o gribau o siâp unigryw sydd o amgylch mynydd uchaf Cymru.

Llynnau Mymbyr


Nant Gwynant
Gan ddarparu cyswllt rhwng Beddgelert a Phen-y-gwryd ar gyfer reidwyr ar lwybr byrrach 50 milltir Ffordd Brailsford, mae'r A498 trwy Nant Gwynant hefyd yn un o'r rhannau mwyaf trawiadol ei golygfeydd ar y daith. 

Gan adael pentref hardd Beddgelert, byddwch yn mynd heibio Gwaith Copr Sygun ac Ystâd  Craflwyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dinas Emrys hudolus, fytholegol sy'n edrych dros yr ystâd, bryn coediog chwedlonol (y dywedir ei fod yn safle brwydr ffyrnig rhwng dwy ddraig yn cynrychioli Cymru a Lloegr). 

Wrth i'r ffordd fynd yn ei blaen trwy'r dyffryn ar raddiant hawdd, byddwch yn gallu ymlacio  i werthfawrogi cymysgedd o olygfeydd sy'n cynnwys dyfroedd symudliw Llyn Dinas ac yn ddiweddarach, Llyn Gwynant. Gyda'r llynnoedd y tu ôl i chi, mae esgyniad cyson trwy goed sydd yn y pen draw yn agor allan i ucheldiroedd eang gyda bryniau garw cyn cyrraedd Pen-y-gwryd (gweler cofnod Bwlch Llanberis am ragor o fanylion).
 

Croeso cynnes Os ydych chi'n treulio ychydig ddyddiau yn reidio ar hyd Ffordd Brailsford, edrychwch am ddarparwyr llety sy'n rhan o gynllun Croeso i Seiclwyr Croeso Cymru. Arhoswch yn un o'r lleoedd hyn (popeth o Wely a Brecwast a gwestai i fythynnod hunanarlwyo) ac fe welwch gyfleusterau fel lle i storio beic yn ddiogel, ystafelloedd sychu ar gyfer dillad a chyfarpar gwlyb ac offer i olchi ac atgyweirio eich beic. Am ddetholiad o leoedd cyfeillgar i feicwyr aros ynddynt, ewch i ran llety o'r wefan.