Ras y Moelwyn

  • 9 Ebrill 2022

Clwb Rygbi Bro Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3NE

Mae'r ras eiconig hon yn ymweld â chopaon Moelwyn Mawr, Graig Ysgafn, Moelwyn Bach a Moel yr Hydd. Gyda golygfeydd syfrdanol, ac 800m o esgyn, mae amrywiaeth eang i'r llwybr 15km / 9.5 milltir - dringfeydd creigiog, llwybrau cyflym a disgyniadau ar laswellt, hyd yn oed ychydig o fwd, yn ddibynnol ar y tywydd!